Rhagor o ddatblygiadau cyffrous yn y flwyddyn i ddod
Cafodd Prifysgol Bangor flwyddyn hynod o lwyddiannus yn 2013, ac mae’n edrych ymlaen at ragor o ddatblygiadau cyffrous yn y flwyddyn i ddod.
Gwelwyd buddsoddiad parhaus yn isadeiledd y Brifysgol yn ystod y flwyddyn, er mwyn darparu’r amgylchedd astudio a chymdeithasol gorau oll i’n myfyrwyr.
Mae’r gwaith adeiladu gwerth £46 miliwn ar ganolfan Pontio yn prysur dynnu at ei derfyn, a bydd yn agored erbyn hydref 2014. Bydd hwn yn gyfleuster gwych i’r gymuned, i fyfyrwyr ac i staff fel ei gilydd. Bydd yn tynnu ein hacademyddion a byd busnes yn nes at ei gilydd, a bydd yn ysbrydoliaeth ar gyfer arloesi a chreadigrwydd. Yn ogystal â darlithfeydd o’r radd flaenaf a mannau dysgu cymdeithasol, bydd yn cynnwys lleoliadau artistig fel theatr a sinema, ynghyd â chyfleusterau i arddangos ein hymchwil.
Mae’r seren opera o fri rhyngwladol, Bryn Terfel, eisoes wedi mynegi diddordeb mawr ym mhroject Pontio a’i gefnogaeth iddo, a bydd theatr newydd Pontio’n cael ei henwi ar ei ôl. Bu’n ymweld â’r safle i weld y datblygiadau unwaith eto’r wythnos ddiwethaf.
Yn ystod y flwyddyn, agorodd yr Is-Ganghellor, yr Athro John G Hughes, Neuadd Garth ar ei newydd wedd. Mae'r gwaith adnewyddu wedi costio £4.5 miliwn ac mae ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig yn bennaf. Mae’n cynnwys dwy ystafell gyffredin, ystafell gyfarfod, teras awyr agored gyda seddau a byrddau, ystafell gyfrifiaduron a chyfleusterau wi-fi trwyddo draw. Mae’r Brifysgol hefyd yn gobeithio datblygu safle Preswyl newydd i Fyfyrwyr, ar hen safle Coleg y Santes Fair ym Mangor.
Mae cyfleusterau hamdden hefyd yn bwysig i’n myfyrwyr, ein staff ac i’r gymuned leol, ac mae’r Brifysgol buddsoddi’n helaeth yn ei chyfleusterau chwaraeon.
Mae ‘Cromen’ newydd chwyddadwy ar gyfer pob tywydd wedi’i gosod yn lle’r hen gyrtiau tenis awyr agored ar Safle’r Ffriddoedd. Bydd hyn yn sicrhau bod clybiau staff a myfyrwyr yn gallu chwarae tennis a phêl-rwyd drwy'r flwyddyn. Rydym hefyd wedi dechrau adnewyddu Canolfan Chwaraeon y Brifysgol. Ar ôl ei chwblhau yn 2014, bydd ganddi gampfa ddeulawr newydd, ystafelloedd newid wedi’u hailwampio, stiwdio aerobeg newydd, a llawr newydd yn y brif neuadd chwaraeon.
Ychydig cyn y Nadolig, cyhoeddwyd y bydd gwaith yn mynd yn ei flaen ar gynllun ar gyfer llain hyfforddi 3G artiffisial yng Nghlwm Pêl-droed Dinas Bangor, a fydd yn ehangu cyfleusterau cymunedol ar y cae. Mae’r Brifysgol yn falch o fod yn bartner yn y datblygiad hwn, a bydd yn rhwymo £150,000 tuag at y project cyffrous hwn.
Mae Prifysgol Bangor yn parhau i chwarae rhan bwysig yn lles economaidd y rhanbarth. Bydd y swyddogaeth hon yn ehangu ar raddfa fawr wrth i Lywodraeth Cymru fuddsoddi £10 miliwn mewn Parc Gwyddoniaeth newydd i’w rheoli gan y Brifysgol.
Bydd y Parc yn adeiladu ar gryfderau presennol Prifysgol Bangor mewn amryw o feysydd ymchwil, yn cynnwys ynni, yr amgylchedd, technoleg lân, peirianneg ac electroneg. Mae gan y rhanbarth hwn bosibiliadau mawr o ran ehangu ei arbenigedd yn y meysydd hyn a chreu swyddi gyda chyflogau llawer uwch na’r cyflog cyfartalog presennol yng Nghymru.
Trwy fod â’r adeiladau a’r adnoddau diweddaraf, mae’r Brifysgol yn gobeithio denu gweithgareddau ymchwil a datblygu busnesau bach a chanolig sydd â’r posibilrwydd o dyfu, ynghyd â chwmnïau mawr a rhai o'r ymchwilwyr gorau i ogledd-orllewin Cymru.
Mae’r holl ddatblygiadau hyn yn dangos bod Bangor yn buddsoddi’n helaeth yn ei dyfodol a hefyd yn nyfodol y rhanbarth.
Am ragor o newyddion o’r Brifysgol, darllenwch ei Harolwg Blynyddol, sydd ar gael yma.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Ionawr 2014