Rhannu llofnod Hitler mewn ymgais i sicrhau diogelwch
Mae hanes twymgalon o ddewrder a chyfeillgarwch y tu ôl i gopi prin o lofnod Hitler sy’n cael ei arddangos am y tro cyntaf, a hynny ym Mhrif Lyfrgell y Celfyddydau, Prifysgol Bangor.
Mae arddangosfa fechan yn esbonio arwyddocâd y llythyr a arwyddwyd gan y Fürher a sut y daeth i Gymru yn y lle cyntaf, a sut y daeth i fod ar fenthyg i Archif y Brifysgol. Mae’r Arddangosfa ar agor i’r cyhoedd yn ystod yr wythnos rhwng 9.00- 5.00.
Mae’r llythyr a lofnodwyd gan Hitler yn diolch i aelod uchel o’r gwasanaeth sifil yn yr Almaen, Dr Theodor Lewald am ei gymorth wrth lwyfannu’r Gêmau Olympaidd gwaradwyddus yn Berlin yn 1936. Ond mae celwydd ynddo. Nid ymddeol oherwydd ei oed yr oedd Dr Lewald ond, yn hytrach, cael ei orfodi i wneud oherwydd ei dras Iddewig. Anfonodd ef y llythyr ymlaen at athrawes, Dr Dorothea Wegle, aelod o ddosbarth canol uwch yr Almaen – a nifer ohonynt yn wrthwynebus i fudiad y Natsïaid a’r hyn yr oeddynt yn ei gynrychioli.
Daeth yn adnabyddus yn lleol oherwydd ei gwrthwynebiad i’r gyfundrefn Natsiaidd ac roedd Dr Lewald yn gobeithio o y byddai rhoi’r llythyr i’w meddiant efallai’n achub ei bywyd petai’r Gestapo yn ei herlid.
Bu i Dr Wegle oroesi’r Rhyfel, fel y gwnaeth Dr Lewald. Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach, rhoddodd hi’r llythyr i gyn-ddisgybl a oedd wedi aros mewn cysylltiad â hi. Y cyn-ddisgybl honno, Mrs Renate Ellis Jones o Dregarth sydd wedi rhoi’r llythyr ar fenthyg i’r Archif.
Fel yr esbonia’r Archifydd, Einion Thomas, yr hanes: “Roedd gan Lewald ddiddordeb brwd mewn chwaraeon. Bu’n bennaeth ar Bwyllgor Trefnu’r Almaen a enillodd Gêmau Olympaidd 1916 i Berlin, er na chawsant eu cynnal oherwydd y rhyfel. Fel aelod o’r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol, llwyddodd i argyhoeddi’r pwyllgor fod yr Almaen yn cael cystadlu unwaith eto yn y Gêmau Olympaidd. Ym 1931, o ganlyniad i’w ymdrechion, dyfarnwyd Gêmau 1936 i Berlin. Yn 1932, daeth yn gadeirydd ar Bwyllgor Trefnu Gêmau Berlin.
“Pan gipiodd y Natsïaid rym yn Ionawr 1933, wynebodd Lewald argyfwng personol. Roedd yn hanner Iddew, ac er iddo gael ei fedyddio’n Gristion, cyn belled ag yr oedd y Natsïaid yn y cwestiwn, Iddew oedd Lewald, a dylai felly golli ei swydd fel cadeirydd y Pwyllgor Trefnu. Yn dilyn pwysau gan y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol, cafodd Lewald barhau’n cadeirydd, ar yr amod ei fod yn gadael y Pwyllgor cyn gynted ag yr oedd y Gêmau’n dod i ben.”
“Yn ystod y Rhyfel, bu iddo symud yn yr un cylchoedd â’r athrawes ddysgedig, Dr Dorothea Wegle, oedd yn hanu o deulu dosbarth canol-uwch yn yr Almaen.”
“Roedd hi’n un o niferoedd eraill o gefndir tebyg a oedd yn ddirmygus o Hitler a’r Natsïaid.”
“Roedd ei dirmyg tuag at Hitler a’r blaid Natsïaidd yn hysbys i lawer yn lleol, ac aeth i drafferthion oherwydd hyn ac fe’i gorfodwyd i roi’r gorau i’w swydd, a hynny er iddi fod yn athrawes wych ac ysbrydoledig. Ychydig cyn iddi adael ei swydd addysgu, cyfarfu â Theodor Lewald. Sylweddolodd yntau ei bod hi mewn perygl mawr. ‘Roedd yr Almaen yn colli’r rhyfel, a gallai unrhyw rai a gyhuddid o wangalonni neu o ymosod ar Hitler a’r blaid eu cael eu hunain o flaen Llys y Bobl a wynebu cyfnod hir o garchar neu hyd yn oed ddedfryd o farwolaeth. Rhoddodd Lewald iddi’r llythyr, gan ddweud wrthi am gadw’r llythyr gyda hi bob amser, a phe bai hi rywdro’n cael ei stopio neu ei holi gan y Gestapo, y dylai ei ddangos iddynt. Gobaith Lewald oedd y byddai llythyr wedi ei lofnodi gan Hitler yn rhyw fath o warant o ddiogelwch iddi.”
Cadwodd Dorothea’r llythyr gyda hi ac, yn eironig, ar ôl y rhyfel, roedd hi’n dal i’w gario o gwmpas yn ei bag. Ddechrau’r 1960au, rhoddodd y llythyr i Renate Ellis Jones a fu’n ddisgybl iddi.
Meddai Mrs Renate Ellis Jones: “Rwy’n teimlo’n ffodus fy mod wedi cael cyfeillgarwch oes â Dorothea Wegle. Cafodd fy nghyfeillgarwch â hi effaith fawr ar fy mywyd. Y prif bethau oedd ei bod wedi ysgogi ynof gariad at y Saesneg a’m sbardunodd i astudio’r iaith a dod i Loegr wedi’r rhyfel, a hefyd gariad at Roeg Clasurol. Dyna pam yr es i Wlad Groeg a sut y cyfarfûm â’m gŵr o Gymro a’i briodi.
Credaf ei bod wedi rhoi’r llythyr i mi am ei bod hi’n awyddus i gael rhywbeth yr oedd hi’n rhoi gwerth mawr arno.”
Oriau agor Prir Llyfrgell y Celfyddydau: Llun-Iau 8.45am-9pm Gwener 8.45am-8pm Sadwrn & Sul 12-5pm nes 17.12.10
Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2010