Rhannu technolegau iaith y Gymraeg â gweddill y byd
Ar 25 Ionawr, daeth ymchwilwyr academaidd, datblygwyr lleol a chynrychiolwyr rhai o gwmnïau mawr y sector digidol at ei gilydd ym Mangor i drafod a rhannu arferion da ym maes technolegau iaith, a hynny yng Nghynhadledd Technoleg a’r Gymraeg 2019. Dyma’r drydedd gynhadledd i’w chynnal gan Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, sef Canolfan Gwasanaethau, Technoleg ac Ymchwil Cymraeg Prifysgol Bangor.
Eleni, agorwyd y gynhadledd gan Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, a gyflwynodd Gynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg Llywodraeth Cymru, sef cynllun uchelgeisiol gan y Llywodraeth i sicrhau defnydd cyflawn o dechnoleg yn ei nod o sicrhau bod miliwn o siaradwyr y Gymraeg erbyn 2050.
Yn ogystal â thrafod y Cynllun Gweithredu, cafwyd cyflwyniadau ar strategaethau digidol ar gyfer adfywio ieithoedd, technoleg adnabod lleferydd ar gyfer y Gymraeg a thrafodaethau ar sut y gall technolegau iaith fod yn yrrwr i’r economi. Yn ogystal, rhoddwyd sylw i ieithoedd lleiafrifol eraill a lle technoleg yng nghyd-destun hyfywedd yr ieithoedd hynny.
Ymhlith y cyfranwyr eleni oedd cynrychiolydd o gwmni rhyngwladol Mozilla, arweinydd project Amrywiaeth ieithyddol Digidol Ewrop, ymchwilydd cyfieithu peirianyddol o Dublin City University a Wicimediwr Cenedlaethol Cymru, Jason Evans.
Wrth gloriannu’r gynhadledd eleni, meddai Pennaeth yr Uned Technolegau Iaith, Delyth Prys:
“Rydyn ni’n arbennig o falch o fedru croesawu Eluned Morgan i agor y gynhadledd eleni. Mae’r Gymraeg yn rhan o deulu o ieithoedd bach ar draws y byd sy’n awyddus i lwyddo yn y byd technolegol a digidol newydd, ac mae cyfleoedd fel hyn i rannu syniadau a datblygiadau arloesol yn bwysig i ni i gyd. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae Cymru yn flaengar wrth ddefnyddio technolegau iaith i adfywio a diogelu ein hiaith, ac rydyn ni’n falch o fedru rhannu’r datblygiadau yma gyda’r gymuned ryngwladol ehangach.”
Ategwyd hyn gan Yr Athro Jerry Hunter, Dirprwy Is-ganghellor sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg:
“Yn ogystal â bod yn ddarparwr addysg uwch cyfrwng Cymraeg o bwys, mae’n wych gweld Prifysgol Bangor yn arwain ar yr holl elfennau atodol hynny – ymchwil, polisi a thechnoleg – sy’n cyfrannu at gyrraedd nod Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Nid agweddau ar wahân mo rhain, yn bodoli mewn gwagleoedd, ond yn hytrach y seilwaith sydd ei hangen arnom wrth i ni gyrchu’r nod uchelgeisiol hwn.”
Wrth agor y gynhadledd eleni, cyfeiriodd Eluned Morgan AC at yr angen i dechnoleg Gymraeg i allu cynnal datblygiadau presennol yn y maes ac i rannu ei harbenigeddau ag eraill:
“Mae technoleg eisoes wedi newid y ffordd ry’n ni’n byw yn llwyr, ac mae’n bosibl y bydd y newidiadau’n digwydd yn gyflymach fyth yn y dyfodol. Dwi’n falch fod cynhadledd o’r fath wedi ei drefnu er mwyn i bawb allu dysgu oddi wrth ein gilydd er budd ein hieithoedd ni i gyd ym myd technoleg.”
Dyddiad cyhoeddi: 28 Ionawr 2019