Rheoli ecosystemau er budd pobol, natur a’r economi
Rydym yn defnyddio ‘cyfalaf naturiol’ y ddaear yn gynt nag y gall y ddaear ei adnewyddu. Mae’n haws gweld sut yr ydym yn defnyddio adnoddau anadnewyddadwy fel glo ac olew, ond rydym hefyd yn gor-ddefnyddio adnoddau a ‘gwasanaethau’ eraill sy’n llai gweladwy, ond nid yn llai pwysig i’n goroesiad - pethau fel peillio ein cnydau bwyd, gallu’r ddaear i storio carbon mewn mawndir a phuro’r awyr trwy blanhigion. Mae dull gweithredu newydd yn cael ei ddatblygu sy’n rhoi ystyriaeth i’r ‘gwasanaethau’ naturiol hyn.
Yng Nghymru, mae Papur Gwyrdd Cymru Fyw Llywodraeth Cymru’n cynnig dull o wneud penderfyniadau sy’n sy’n ystyried ecosystemau. Ystyr hyn, yn syml, yw rhoi ystyriaeth i wir werth hirdymor ecosystemau a’u gwasanaethau wrth wneud penderfyniadau.
Bydd Cynhadledd Ryngwladol sy’n canolbwyntio ar y dull ‘ecosystemau’ hwn yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Bangor heddiw (Dydd Gwener 18 Hydref).
Bydd gwyddonwyr a’r rhai sy’n darparu cyngor annibynnol seiliedig ar dystiolaeth i lywodraethau cenedlaethol yn trafod y datblygiadau polisi a’r ymchwil ddiweddaraf ym maes rheoli ecosystemau yng Nghymru, y DU ac Ewrop, ac yn benodol sut mae gwyddoniaeth yn cael ei throsi’n bolisi.
Byddant yn rhannu arfer gorau o Ewrop a’r DU ac wrth reswm, yn canolbwyntio ar y datblygiadau diweddar a welwyd yng Nghymru, gan gynnwys creu un corff amgylcheddol- Cyfoeth Naturiol Cymru, a sut mae projectau ymchwil newydd ar wasanaethau ecosystemau gwerth sawl miliwn o bunnoedd yn dod ymlaen.
Dywedodd Emyr Roberts, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Yng Nghymru, cawn gyfle unigryw i reoli ein hadnoddau naturiol mewn ffordd sydd, nid yn unig yn sicrhau’r budd mwyaf i fywyd gwyllt cefn gwlad ac ardaloedd trefol, ond hefyd i bobol a chymunedau.
“Ein hamgylchedd sy’n gyfrifol am sawl peth yr ydym yn ei gymryd yn ganiataol- o leihau’r risg o lifogydd i buro’r aer a gwneud ein dyfroedd yn lanach.
“Gyda sawl un yn craffu ar bolisïau a chynnydd ym maes yr amgylchedd yng Nghymru, rydym yn edrych ymlaen at barhau i arwain y ffordd ym maes rheoli ecosystemau a chreu gwlad sydd yn rhoi blaenoriaeth i werth ei hadnoddau naturiol.”
Wrth groesawu’r Gynhadledd i Brifysgol Bangor dywedodd yr Athro John G Hughes, Is-ganghellor y Brifysgol: “ rydym yn falch o groesawu’r Gynhadledd ar ei hymweliad cyntaf â Chymru. Mae gan y Brifysgol enw da’n rhyngwladol am ymchwil a dysgu ym maes gwyddorau’r amgylchedd ac rydym wedi gwneud ymrwymiadau clir i gynaliadwyedd, sydd wedi eu cydnabod trwy ein safle fel y Brifysgol fwyaf gwyrdd yng Nghymru.
Mae Canolfan Ymchwil Amgylcheddol Cymru yn y Coleg Gwyddorau Naturiol yma ym Mangor yn esiampl dda o un o’r lliaws o ffyrdd y mae addysg uwch yn gwneud cyfraniad. Drwy gyllid gan Lywodraeth Cymru, mae’r Ganolfan yn manteisio ar arbenigedd prifysgolion a sefydliadau addysg uwch er mwyn darparu’r sail tystiolaeth sydd yn llywio ac yn cadarnhau polisi llywodraeth.”
Sefydlwyd Cynghorau Ymgynghorol ar yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy Ewropeaidd (European Environment and Sustainable Development Advisory Councils (EEAC)) yn rhan fwyaf o wledydd Ewropeaidd, ac mae’r rhwydwaith yn cynrychioli 16 o wledydd yn Ewrop. Mae’r Gynhadledd yn cael ei chynnal ar y cyd rhwng Prifysgol Bangor a Chyfoeth Naturiol Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Hydref 2013