Rhestr Anrhydeddau’r Frenhines yn gwobrwyo staff Prifysgol Bangor
Mae pedwar unigolyn sydd â chysylltiad â Phrifysgol Bangor yn ymddangos ar restr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines eleni.
Bydd cyn Is-Ganghellor y Brifysgol, yr Athro Merfyn Jones yn derbyn CBE am ei wasanaeth i addysg uwch yng Nghymru. Yn ogystal â gwasanaethu fel chweched Is Ganghellor y Brifysgol, a hynny dros gyfnod fu’n cynnwys dathliadau canmlwyddiant a chwarter y Brifysgol, yn ddiweddar bu’r Athro Jones yn cadeirio adolygiad Llywodraeth Cymru o addysg uwch yng Nghymru. Croesawodd yr Athro Jones yr anrhydedd gan ddweud ei fod yn gydnabyddiaeth o gyfraniad addysg uwch, a chyfraniad Prifysgol Bangor yn benodol, i fywyd Cymru.
Bydd yr Athro Judy Hutchings o’r Ysgol Seicoleg a chanolfan Blynyddoedd Rhyfeddol Cymru yn derbyn OBE am ei gwasanaethau i blant a theuluoedd.
Yr Athro Hutchings fu’n bennaf gyfrifol am gyflwyno rhaglenni Blynyddoedd Rhyfeddol i Gymru, yn ogystal â mesur effeithiolrwydd y rhaglenni sydd yn cefnogi plant ifanc a theuluoedd.
Mae Canolfan Blynyddoedd Rhyfeddol Cymru yn y Brifysgol yn ymchwilio i effeithiolrwydd y rhaglenni, yn darparu hyfforddiant ac mae ganddi hefyd adain elusennol sydd yn codi arian er mwyn cyllido’r ymchwil, hybu ymwybyddiaeth a chefnogi’r gwasanaethau hynny sydd yn defnyddio’r rhaglenni.
Mae’r Athro Hutchings hefyd yn arwain Canolfan newydd ei sefydlu- Canolfan Ymyrraeth Gynnar ar Sail Tystiolaeth, sydd yn adeiladu ar 20 mlynedd o ymchwil ganddi yn yr Ymddiriedolaeth GIG leol a’r Brifysgol.
“ Wrth i ni ddathlu Wythnos y Prifysgolion, does dim dwywaith nad yw prifysgolion , trwy eu dysgu, eu hymchwil a’u gweithgareddau yn cael effaith bwerus ar fywydau pobol. Rydym yn falch iawn bod yr Athro Merfyn Jones, Yr Athro Judy Hutchings, yr Athro Robert Edwards, cyn fyfyriwr o’r Brifysgol ac un o Gymrodorion er Anrhydedd y Brifysgol i gyd wedi derbyn cydnabyddiaeth haeddiannol ,” meddai’r Is-Ganghellor, yr Athro John G. Hughes.
Bydd ‘tad IVF’, yr Athro Robert Edwards, yn cael ei wneud yn Farchog am ei wasanaeth i fioleg atgynhyrchiol ddynol. Graddiodd Robert Edwards o Fangor â gradd mewn sŵoleg ym 1951. Bu’n astudio ym Mangor dan yr Athro blaenllaw, Rogers Brambell, a ysgogodd ei ddiddordeb mawr mewn mamaliaid. Aeth ymlaen i arloesi ym maes IVF (in vitro fertilisation) gyda Patrick Steptoe; gwaith a arweiniodd at eni dros bedair miliwn o blant drwy’r dull hwnnw.
Mae Dr Dewi Roberts, sydd yn gwasanaethu ar Gyngor y Brifysgol , hefyd i’w longyfarch. Bydd Dr Roberts yn derbyn MBE am ei wasanaethau i gymuned gogledd Cymru trwy ei waith fel cadeirydd Ymyriadau Cyfiawnder Cymunedol Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mehefin 2011