Rhoi gwyddoniaeth ar y blaen yng Nghymru yn 2016
Yn dilyn cyflwyno’r cais cynllunio manwl ffurfiol ar gyfer Parc Gwyddoniaeth arfaethedig Menai (M-SParc), sef project dan arweiniad Prifysgol Bangor, i Gyngor Ynys Môn ym mis Rhagfyr, mae Cyfarwyddwr M-SParc, Ieuan Wyn Jones, yn edrych yn ôl ar flwyddyn arwyddocaol i’r parc gwyddoniaeth penodol cyntaf yng Nghymru, sy’n ac yn edrych ymlaen at yr hyn sy’n addo bod yn ddyfodol cyffrous i ymdrech wyddonol yng ngogledd-orllewin Cymru yn 2016 a thu hwnt.
“Bu’n dipyn o flwyddyn. Ar ôl derbyn caniatâd cynllunio amlinellol gyda chymeradwyaeth unfrydol ym mis Mai 2015, mae M-SParc wedi datblygu’n gyflym. Ein nod yw creu economi glwstwr unigryw i annog partneriaethau rhwng diwydiant uwchdechnoleg ac ymchwil wyddonol yng ngogledd-orllewin Cymru.
“Rhoddwyd hwb sylweddol i’r cynlluniau ar gyfer M-SParc ym mis Hydref yn dilyn llwyddiant i sicrhau £10.2 miliwn o gyllid Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru (WEFO). Roedd y prosiect eisoes wedi sicrhau buddsoddiad £10.8 miliwn cytunedig gan Lywodraeth Cymru, ond fe wnaeth cytundeb WEFO gwblhau’r pecyn cyllid a refeniw o £21 miliwn yr oedd ei angen i wireddu’r weledigaeth gyffrous hon ar gyfer y rhanbarth.
“Mae’r weledigaeth hon wedi’i seilio ar greu cyfleoedd cyflogaeth tra medrus, tymor hir, datblygu amgylchedd rhannu gwybodaeth a chreu canolfan economaidd mewn sectorau fel carbon isel, ynni, yr amgylchedd a TGCh.
Pe roddid caniatâd cynllunio llawn, bydd y parc gwyddoniaeth yn creu pont rhwng cwmnïau arloesol a Phrifysgol Bangor, sy’n berchen ar M-SParc yn gyfan gwbl. Mae’n ddyddiau cynnar, ond rydym eisoes yn cynnal trafodaethau â nifer o denantiaid posibl o amrywiaeth o sectorau i feddiannu’r parc.”
“Yn rhan o’r paratoadau hyn, gwnaethom gyflogi’r penseiri FaulknerBrowns i gynllunio’r adeilad cyntaf ar y safle. Cynhaliwyd digwyddiad ymgynghoriad cyhoeddus yn Gaerwen y llynedd hefyd, a groesawodd aelodau’r cyhoedd ac a roddodd gyfle iddynt weld y cynlluniau hyn drostynt eu hunain. Mae’r cynlluniau ar gyfer yr adeilad cyntaf, sy’n rhan o’r cais cynllunio ffurfiol a gyflwynwyd yn ddiweddar, ar gael ar wefan M-SParc hefyd, ac mae’r adborth arnynt wedi bod yn dda hyd yma.
“Os llwyddwn i gael caniatâd cynllunio llawn yn ddiweddarach yn y gwanwyn, gobeithiwn allu penodi prif gontractwr ar gyfer y prosiect yn fuan wedi hynny. Fodd bynnag, er mwyn paratoi ar gyfer unrhyw waith tir sylfaenol ar y safle ac yn rhan o’r amodau ar gyfer y caniatâd cynllunio llawn, rydym wedi penodi un o fyfyrwyr rhyngwladol Prifysgol Bangor, sef Nebu George, yn intern archaeoleg Parc Gwyddoniaeth Menai Ltd. Dewiswyd Nebu, sy’n wreiddiol o Mumbai, India, yn rhan o Gynllun Interniaeth Israddedigion Prifysgol Bangor, a weinyddir gan dîm Dyfarniad Cyflogadwyedd Bangor yn y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd.
“Wrth i ni symud i’r cam nesaf yn natblygiad y parc, mae’n ymddangos yn briodol i ni ddiweddaru ein presenoldeb ar-lein i adlewyrchu ein huchelgeisiau fel y parc gwyddoniaeth penodol cyntaf yng Nghymru. Cynlluniwyd y wefan ddwyieithog – www.m-sparc.com – yng ngogledd Cymru gan yr asiantaeth greadigol blah d blah. Mae’n cynnwys gwybodaeth gefndir am y parc gwyddoniaeth, cyflwyniadau i aelodau staff allweddol yn ogystal â’r newyddion diweddaraf a chynlluniau ar gyfer y dyfodol. Mae’r wefan hefyd yn cynnwys dolenni i gyfrifon Twitter (@M_SParc), Facebook (www.facebook.com/ MenaiSciencePark) a Youtube y parc gwyddoniaeth.
“Rydym wedi datblygu llawer yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ond mae cryn dipyn i’w wneud o hyd cyn y gallwn ddechrau codi’r adeilad cyntaf ar y safle. Fodd bynnag, gobeithiwn y gallwch ymuno â ni wrth i ni ddechrau’r daith gyffrous hon.”
Dyddiad cyhoeddi: 13 Ionawr 2016