Rhwydd hynt i ynni morol adnewyddadwy?
Gallai ffermydd “melinau gwynt tanddwr” effeithio’r ffordd mae tywod yn symud o amgylch y môr ar hyd ein harfordir, gan effeithio ar draethau, traethellau ac, yn y pen draw, chynyddu’r perygl o lifogydd, yn ôl Dr Simon Neill, eigionegwr ym Mhrifysgol Bangor.
Yn “Planet Earth”, sef cylchgrawn arobryn Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, mae Dr Neill yn cymharu ffermydd ynni’r llanw’n â gwaith ffordd.
“pan mae cerhyntau’r llanw’n ddigon cyflym, maent yn codi gronynnau tywod oddi ar wely’r môr ac yn eu cludo gyda hwy yn y llif. Mae hyn yn debyg i geir yn codi teithwyr ar y ffordd i ben eu taith.”
“Mae echdynnu egni o system lanw, trwy greu fferm dyrbinau ffrwd llanw neu “melinau gwynt tanddaearol”, yn lleihau cryfder llif y llanw. Mae hyn yn cael yr un effaith â gwaith ffordd ac yn arwain at leihad yn llif y traffig. Mae lleihad yn llif y traffig yn golygu nad oes modd cludo gymaint o deithwyr. Yn y môr, bydd ffermydd ynni’r llanw yn lleihau faint o dywod sy’n cael ei gludo.”
Mae symudiad y tywod yn bwydo i mewn i’r systemau naturiol sy’n amddiffyn ein harfordir rhag tonnau storm, fel traethau a thraethellau tywod oddi ar y lan. Pe bai cynllun ynni’r llanw mawr yn amharu ar lif naturiol tywod, gallai hynny olygu bod ein harfordir yn fwy agored i effeithiau stormydd, a gallai arwain at fwy o berygl o lifogydd.
Fodd bynnag, yn ychwanegol at fanteision amlwg cynhyrchu trydan carbon isel, gall ymyriadau artiffisial gan ffermydd ynni'r llanw hefyd arwain at effeithiau cadarnhaol. Gellid hyd yn oed gosod ffermydd ynni’r llanw mewn modd strategol i greu amddiffynfa naturiol yn erbyn llifogydd arfordirol trwy wneud i waddodion tywod ymsefydlu lle na fyddent wedi gwneud hynny’n naturiol. Fodd bynnag, byddai rhaid seilio geobeirianneg arloesol felly ar ddealltwriaeth gadarn o’r prosesau eigionegol gwaelodol.
Cyhoeddir manylion yr ymchwil hwn yng nghyfrol hydref 2011 cylchgrawn Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, "Planet Earth". http://www.nerc.ac.uk/publications/planetearth/2011/autumn/aut11-renewables.pdf
Dyddiad cyhoeddi: 15 Medi 2011