Rhwydwaith Bangor ar gyfer Cyfryngau, Perswâd a Chyfathrebu (MPC) wedi cynnal cynhadledd lwyddiannus
Ar 10-11 Tachwedd 2014, cynhaliodd Rhwydwaith Bangor ar gyfer Cyfryngau, Perswâd a Chyfathrebu gynhadledd flynyddol y Gymdeithas Astudiaethau Gwleidyddol ar gyfer y Grŵp Cyfryngau a Gwleidyddiaeth. Y Cyfryngau, Perswâd a Hawliau Dynol oedd y thema.
Cafwyd nifer dda o siaradwyr rhyngwladol yn y gynhadledd, gyda phrif areithiau gan yr Athro Sue Clayton a’r Athro Jon Silverman.
Rhoddodd yr Athro Sue Clayton, Athro Ffilm a Theledu, Goldsmiths, sgwrs ddifyr, graff a theimladwy ar Indies and Interactive: how to build new media formats and networks for human rights.
Bu Jon Silverman, Athro Ymchwil mewn Cyfryngau a Chyfiawnder Troseddol ym Mhrifysgol Swydd Bedford, yn ymestyn meddyliau a gwybodaeth y cyfranogwyr yng nghyswllt y Llys Troseddol Rhyngwladol a Llys Cyfiawnder a Hawliau Dynol yr Undeb Affricanaidd ei hun, gyda’i sgwrs ar The Justice Conundrum: redressing human rights abuses in Africa, gan fyfyrio ar fethiannau i ddal y ‘dynion mawr’ yn atebol tra oeddent mewn grym.
Trwy bapurau llawn ysbrydoliaeth gan ôl-raddedigion ac academyddion sydd wedi ennill eu plwyf, cynio gwych ym Mar y Teras, a llawer o amser ar gyfer rhwydweithio, bu hon yn gynhadledd ragorol. Noddwyd y gynhadledd gan BBC Monitoring a chan y cyhoeddwyr academaidd Peter Lang, yn ogystal â chan Brifysgol Bangor. Mae mwy o fanylion am y gynhadledd i’w gweld ar wefan MPC: https://mpc.bangor.ac.uk/Events
Mae MPC yn dod ag academyddion ar draws Prifysgol Bangor ac ymhellach at ei gilydd er mwyn ymchwilio a chynghori yng nghyswllt y dylanwad a gaiff cyfathrebu masnachol a gwleidyddol ar gymdeithas a diwylliant.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Tachwedd 2014