Rhwydweithiau newydd gwerth £21 miliwn yn rhoi hwb i ymchwil gwyddonol yng Nghymru
Heddiw (13 Mawrth), roedd Edwina Hart yn dathlu cwblhau cam cyntaf o raglen £50 miliwn Sêr Cymru y Llywodraeth. Nod y rhaglen yw denu talent gwyddonol i Gymru drwy lansio tair Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol.
Bydd y rhwydweithiau’n cael £21 miliwn o gyllid rhaglen ac yn ychwanegu at yr ymchwil rhagorol sydd eisoes yn cael ei wneud yng Nghymru ym maes meddyginiaethau newydd, peirianneg arloesol a thaclo heriau ynni gwyrdd.
Dengys adroddiad diweddar bod ansawdd yr ymchwil gwyddonol a wneir yng Nghymru yn well na’r ymchwil a wneir mewn gwledydd o faint tebyg ond, mae angen mwy o ymchwilwyr arnom ni. Bydd Rhwydweithiau Ymchwil Cenedlaethol Sêr Cymru’n buddsoddi mwy mewn ymchwil mewn tri maes Her Fawr – ardaloedd yng Nghymru sydd â’r mwyaf o botensial.
Yr Athro Javier Bonet sy’n arwain y Rhwydwaith Uwch Beirianneg a Deunyddiau ym Mhrifysgol Abertawe a chyfarwyddwyr Rhwydwaith Gwyddorau Bywyd ac Iechyd Prifysgol Caerdydd yw’r Athrawon Malcolm Mason a Chris McGuigan. Y trydydd Rhwydwaith yw’r un ar Garbon Isel, Ynni a’r Amgylchedd a’r Athro David N Thomas yw’r cadeirydd.
Mae hyn yn dilyn penodi tri Athro byd enwog yn Gadeiryddion Ymchwil Sêr Cymru yn y tri maes pwnc sy’n “Her Fawr” i ni.
Bydd pob rhwydwaith yn datblygu prosiectau ymchwil yn eu meysydd pwnc ar y cyd ag athrofeydd addysg uwch a chyrff eraill ledled Cymru a thu hwnt. Bydd pob rhwydwaith yn cael £7 miliwn gan Lywodraeth Cymru i benodi myfyrwyr PhD a chymrodyr i ddatblygu ymchwil newydd ac i ddenu mwy o fuddsoddiad i Gymru.
Wrth siarad yn y lansiad heddiw yn y Brifysgol, dywedodd Edwina Hart, Gweinidog yr Economi a Gwyddoniaeth: “Mae gwyddoniaeth ac arloesi yn gonglfeini allweddol i economi ffyniannus. Os ydym am wella ein lles economaidd a chreu dyfodol ffyniannus i Gymru, mae’n rhaid i ni hybu ymchwil gwyddonol. Mae ymchwilwyr Cymru ymysg y gorau yn y byd o ran yr arian a fuddsoddir. Mae Rhwydweithiau Sêr Cymru yn ceisio cynyddu’r arian a fuddsoddir yng ngwyddorau Cymru trwy gefnogi a rhagori ym maes ymchwil.”
Dywedodd yr Athro Julie Williams, Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru: “Fel y dengys adroddiad Elsevier, mae ymchwil o ansawdd uchel a rhagorol eisoes yn cael ei wneud yma yng Nghymru ond mae angen i ni wneud mwy. Bydd y rhwydweithiau hyn yn ein helpu i gyflawni mwy yn y meysydd sydd â’r potensial i greu buddiannau economaidd a chymdeithasol hirdymor yng Nghymru a thu hwnt; mae prosiectau cyffrous eisoes ar waith. Er enghraifft, mae un o’r rhwydweithiau’n gwneud ymchwil i laswelltir all amsugno mwy o ddŵr glaw er mwyn lleihau llifogydd, deunyddiau adeiladu sy’n defnyddio’r haul i gynhyrchu ynni a thriniaethau newydd ar gyfer rhai o’n clefydau mwyaf heriol.”
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mawrth 2014