Rhwystrau i ofal iechyd i gymunedau byddar yng Nghymru
Mae pobl fyddar yng Nghymru yn wynebu heriau difrifol wrth gael y wybodaeth a’r gwasanaethau gofal iechyd sydd eu hangen arnyn nhw, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar. (Iechyd a Lles Cymunedau Byddar yng Nghymru: Cwmpasu ar gyfer Arolwg ledled Cymru).
Canolbwyntiodd yr adroddiad ar unigolion Byddar â'r “B” yn briflythyren. Mae'r rhain yn bobl sy'n fyddar yn ddiwylliannol, a gafodd eu geni'n fyddar fel rheol, ac sy'n defnyddio iaith arwyddion, fel Iaith Arwyddion Prydain (BSL), fel eu hiaith gyntaf neu eu dewis iaith. Mewn cyferbyniad, mae byddar (gyda “d” yn llythyren fach) yn cyfeirio at gyflwr awdiolegol byddardod.
Er bod y gymuned Fyddar yn gymharol fach, maent yn wynebu anghydraddoldebau iechyd sylweddol gyda rhwystrau cynyddol i wybodaeth iechyd a gwasanaethau iechyd.
Mae'r astudiaeth, a oedd yn cynnwys cyfweliadau a gynhaliwyd yng Ngogledd a De Cymru gyda chyfranogwyr Byddar, yn dangos bod nifer o ffactorau'n cyfrannu at y sefyllfa hon. Roedd y rhain yn cynnwys diffyg dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) a oedd ar gael yn gyson, a diffyg dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth gyffredinol o ieithoedd arwyddion a diwylliant Byddar gan ddarparwyr a phersonél gofal iechyd.
Nododd Michelle Fowler-Powe, Cydlynydd Mynediad a Chynhwysiant (Eiriolaeth), ar gyfer Cymdeithas Fyddar Prydain fod BDA Cymru yn croesawu'r adroddiad hwn.
Dywedodd: “Mae'r canfyddiadau yn yr adroddiad yn cyd-fynd â'r hyn rydyn ni wedi'i ddarganfod trwy ein harolygon ein hunain; yn benodol, y canfyddiad lle mae aelodau o'r gymuned Fyddar o bosibl mewn mwy o berygl o beidio â chael diagnosis a thriniaeth ddigonol i afiechydon cronig. Rydym yn mawr obeithio y bydd yr adroddiad hwn yn arwain at archwiliad manylach o sut y gellir gwella iechyd a lles pobl Fyddar.”
Ariannwyd yr adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru gydag ymchwil a wnaed gan Brifysgol Bangor a Phrifysgol Graz yn Awstria, i archwilio'r hyn sy'n rhwystro ac yn galluogi pobl i gadw'n iach mewn cymunedau Byddar, ac i nodi camau gweithredu posibl ar gyfer gwahanol grwpiau proffesiynol.
Dywedodd cyd-awdur yr adroddiad, Dr Christopher Shank o'r Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth:
“Hyd yma, prin fu'r data sy'n benodol i Gymru, gymaint, fel nad ydym hyd yn oed yn gwybod nifer yr oedolion Byddar mewn gwirionedd, sy'n ei gwneud hi'n anodd cyflwyno'r achos dros wella gwasanaethau. Bydd yr adroddiad hwn a'i ganfyddiadau yn darparu'r sylfaen wybodaeth i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau, fel y gall pob un ohonom symud tuag at Gymru iachach sy'n gydlynol ac yn fwy cyfartal, gan fynd i'r afael â dyheadau Deddf Lles Cenhedlaeth y Dyfodol."
Ychwanegodd Paul Redfern, Ysgrifennydd Cyffredinol Cymdeithas Iechyd Meddwl a Byddardod Prydain:
“Roeddem yn falch iawn o weld yr adroddiad hwn gan mai dyma'r darn cyntaf o waith sy'n seiliedig ar dystiolaeth yng Nghymru sy'n dangos yr angen i ddatblygu systemau ar gyfer casglu data ac, yn ei dro, sicrhau bod gwasanaethau'n hygyrch i'r grŵp ieithyddol a diwylliannol hwn, nad oes ganddynt yr un mynediad at wasanaethau o gymharu â gweddill y boblogaeth. ”
Datgelodd yr adolygiad llenyddiaeth a gynhaliwyd gan arbenigwyr yn Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth Prifysgol Bangor a'r Sefydliad Astudiaethau Saesneg ym Mhrifysgol Graz yn Awstria fod gan bobl Fyddar lythrennedd gwael ar y cyfan o ran iechyd. Problemau mawr yw mai cymharol ychydig o wybodaeth iechyd sydd ar gael mewn Iaith Arwyddion Prydeinig o hyd, a bod diffyg dehonglwyr sydd ar gael yn gyson.
Ychwanegodd Dr Christopher Shank:
“Yn gyffredinol, mae canlyniadau’r adolygiad llenyddiaeth yn awgrymu bod gan bobl Fyddar ffyrdd o fyw tebyg i boblogaeth gyffredinol y Deyrnas Unedig, ond maent yn nodi eu bod yn llai iach. Mae’n debygol mai diffygion wrth wneud diagnosis a thrin a rheoli salwch sydd i gyfrif am iechyd gwaeth pobl Fyddar, yn hytrach na pheidio â dilyn ffordd iach o fyw. Un o'r rhesymau tebygol yw cyfathrebu gwael â'u darparwyr gofal iechyd. Er enghraifft, ddim yn cael digon o amser yn ystod apwyntiadau i'r meddygon egluro eu cyflwr, neu'r feddyginiaeth iddyn nhw.”
Mae'r adroddiad hwn wedi tynnu sylw at y ffaith bod angen cynnal astudiaethau manwl pellach i nodi'r hyn sy'n rhwystro ac yn galluogi'r gymuned Fyddar ledled Cymru.
Gellir lawrlwytho'r adroddiad hwn yn Gymraeg neu yn Saesneg a'i weld mewn BSL ar y wefan ganlynol:
http://deaf-communities-wales.bangor.ac.uk/index.php.cy
Dyddiad cyhoeddi: 13 Ionawr 2020