Rhyfeddwch yn Amgueddfa Hanes Natur, Adeilad Brambell, Prifysgol Bangor
Mae amgueddfeydd ledled Cymru yn paratoi i ddathlu a hyrwyddo digwyddiad diwylliannol nodedig yng Nghymru, sef ail Ŵyl Amgueddfeydd Cymru rhwng 24 Hydref a 1 Tachwedd. Fe fydd dros 100 o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd ar gael i’r teulu oll, o hwylnosau, sgyrsiau, teithiau cerdded, helfeydd a sesiynau trin a thrafod i gloddio archeolegol, ailactio, gwisgo gwahanol ddillad, te parti a gweithgareddau yn seiliedig ar Nos Galan.
Un o gefnogwyr yr Ŵyl yw’r Cyflwynydd Teledu ac Arbenigwr ar Fywyd Gwyllt, Iolo Williams –
“Rwyf wrth fy modd yn cefnogi Gŵyl Amgueddfeydd Cymru. Fel plentyn bedair oed, rwy’n cofio syllu’n gegrwth ar sgerbwd mamoth a hyd yn oed nawr, rwy’n rhyfeddu at gyfoeth yr eitemau sydd yn ein hamgueddfeydd. Gyda bron i gant o amgueddfeydd achrededig ar hyd a lled y wlad yn gofalu am tua 5.5 miliwn o eitemau, does dim gwahaniaeth beth yw eich diddordebau, mae yna drysorau’n disgwyl i gael eu darganfod gan y teulu oll.”
Bydd Amgueddfa Hanes Natur Prifysgol Bangor ar agor i’r cyhoedd ar Ddydd Sadwrn 24 o Hydref rhwng 11.00 i 3.30. Yn ogystal a rhoi’r cyfle i ymweld a’r Amgueddfa nad yw ar agor i’r cyhoedd fel arfer, mae digwyddiadau arbennig wedi cael eu trefnu ar gyfer y dydd.
Thema y dydd yw ‘anifeiliad y nos’ a chynhelir dau weithdy, 11.00-12.30 a 2.00-3.30 ar greu anifeiliad y nos hefo’r arlunydd Luned Rhys Parri yn barod ar gyfer Calan Gaeaf. Bydd y rhain yn addas ar gyfer plant 7-12 mlwydd oed ac mae’n angenrheidiol archebu lle ymlaen llaw drwy ffonio 01248 353368.
Cynhelir sgwrs 1.00-2.00 gan arbenigwr ar ystlumod, Cathy Wuster o Grŵp Ystlumod Gwynedd ar “Things that don’t go bump in the night! The wonderful world of bats and how they use the night sky”.
Ar ben hyn bydd gweithareddau amrywiol i blant a bydd myfyrwyr gwirfoddol swoleg ar gael fel tywyswyr.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates,
“Mae gennym amgueddfeydd ffantastig yng Nghymru, yn llawn eitemau hynod sydd o gymorth i adrodd hanes ein gorffennol. Maent yn adnawdd gwerthfawr wrth ein cynorthwyo i ddysgu a deall digwyddiadau hanesyddol pwysig mewn ffordd na ellir ei wneud gyda llyfrau’n unig. Bydd Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn rhoi cyfle i ymwelwyr ddarganfod y casgliadau unigryw a chael eu hysbrydoli ganddynt, ac rwy’n falch o weld amryw o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf ac ardaloedd cyfagos, gan sicrhau bod cyfleoedd i bawb gymryd rhan mewn cyfres o brofiadau cyffrous.”
Ychwanegodd Rachel Silverson, Llywydd Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru,
“Rydym yn cymryd rhan yng Ngŵyl Amgueddfeydd Cymru unwaith yn rhagor oherwydd ei bod yn cynnig cyfle i’n haelodau hyrwyddo eu hamgueddfeydd a bod yn falch o’r gwaith y maent yn ei wneud. Ar adeg pan fydd ar amgueddfeydd angen cefnogaeth gan eu cymunedau, ein gobaith hefyd yw y bydd rhagor o bobl yn parhau i ryfeddu at yr holl bethau sy’n cael eu cynnig gan amgueddfeydd Cymru.”
Lleolir Adeilad Brambell dros ffordd i ASDA ac mae cyfeiradau ar gael ar y gwefan http://www.bangor.ac.uk/tour/MapLleoliad.pdf
Dyddiad cyhoeddi: 12 Hydref 2015