Rhywbeth at ddant pawb yn ystod Ail Ŵyl Wyddoniaeth Prifysgol Bangor
Rhywbeth at ddant pawb yn ystod Ail Ŵyl Wyddoniaeth Prifysgol Bangor
Gwyddoniaeth Wyllt, y byd microsgopig, graddfeydd amser daearegol, ddigwyddiadau ‘cyfle i gyffwrdd’ a darlithoedd - mae ‘na rywbeth i ddiddanu a diddori pawb yn ystod ail Ŵyl Wyddoniaeth Prifysgol Bangor. Mae digwyddiadau’r Ŵyl mewn lleoliadau amrywiol rhwng 7-18 Mawrth 2012 ac maent yn rhad ac am ddim i’w fynychu.
Mae’r Ŵyl yn rhan o Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth a Pheirianneg, ac yn dilyn wythnos lwyddiannus y llynedd. Ceir manylion yn llawn am ddigwyddiadau’r Ŵyl ar y wefan: http://www.bangor.ac.uk/bangorsciencefestival/index.php.cy?
Ymysg y prif ddigwyddiadau mae’r cyfleoedd canlynol:
Mae taith tywys yn y mynyddoedd yn dilyn ôl traed Charles Darwin wrth esbonia daeareg Cwm Idwal. Mae effeithiau gweithgaredd folcanig ysgytwol a rhewlifiannau dwfn ddigwyddodd filiynau o flynyddoedd i’w gweld mor amlwg yn y creigiau a’r tirlun lleol. Chwaraeodd Cwm Idwal rhan allweddol mewn cynyddu ein dealltwriaeth o’r cyfnodau daearegol pan ddigwyddodd hyn, ac mae wedi denu sylw gwyddonwyr pwysig, gan gynnwys Charles Darwin (fel y gwelwyd yn rhaglen darn Bach o Hanes S4C 27.2.12). Bydd yr Athro Colin Jago, o Ysgol Gwyddorau Eigion y Brifysgol yn arwain taith tywys daeareg Cwm Idwal, ddydd Sul 11eg am 2.00. Gwelwch y wefan am fanylion pellach.
Mae Arddangosfa Bydoedd Cudd Ddydd Sadwrn 17 Mawrth yn gyfle gwych i bawb i ddod draw i weld rhywbeth anhygoel. Dewch i'r Adeilad Prifysgol Brambell ar Ffordd Deiniol rhwng 10.00-a 400 pm i weld lluniau gwych o'r tu mewn i'r ymennydd pry neu ddarganfod rhyfeddodau DNA, cyfarfod rhai anifeiliaid byw a chrwydro amgueddfa hanes naturiol y Brifysgol.
Mae Gwyddoniaeth Wyllt yng Ngardd Fotaneg Treborth Ddydd Sul 18 Mawrth yn ddigwyddiad angenrheidiol i unrhyw un o unrhyw oed sy’n doti ar fyd natur. Eleni bydd Gardd Fotaneg Prifysgol Bangor yn rhoi cyfle i’ch codi uwchben y canghennau ar blatfform er mwyn cael persbectif o’r newydd ar goedlannau Treborth. Cewch yna gyferbynnu hynny drwy gael golwg fanwl golwg fanwl ar y pridd gan ddefnyddio’r labordy tanddaearol, a elwir y Rhizotron, sydd newydd ei adnewyddu. Hwn yw un o’r cyfleusterau mwyaf ei faint a mwyaf datblygedig o’i fath yn y byd. Bydd helfa chwilod, trochi mewn pwll a chyfle i edrych allan am wiwerod. Bydd y cyflwynydd teledu Russell Jones hefyd yn bresennol i ddweud wrthych pam y dylech chi fabwysiadu iâr ac achub y blaned.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Chwefror 2012