Rob yn ennill Ras Eryri
Rob Samuel cyn-fyfyriwr ôl-radd o Brifysgol Bangor yw enillydd Marathon Eryri eleni . Daeth yn gyntaf allan oddeutu 2,000 o ymgeiswyr. Daeth Rob, sy'n rhedeg gyda Rhedwyr Eryri, gartref mewn dwy awr 36 munud 45 eiliad, er gwaethaf y tywydd erchyll.
Cwblhaodd Rob ei radd israddedig ac ôl-raddedig yn yr Ysgol Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Gwyddorau (SSHES) ym Mhrifysgol Bangor. Rhwng astudio am ei raddau roedd yn llywydd yr Undeb Athletau. Yn ogystal â'i gysylltiadau hir sefydlog â'r Brifysgol, mae Rob yn athletwr rhyngwladol. Mae wedi cynrychioli Cymru a Prydain Fawr tra roedd yn astudio ym Mangor. Yn fwyaf diweddar, ym mis Medi, bu'n cynrychioli Cymru yn y bencampwriaeth Rhedeg Mynydd a Phellter Eithafol y Gymanwlad yn Llanberis a Phrydain Fawr yn y pencampwriaethau Rhedeg Mynydd y Byd yn Albania.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2011