Rondo Media yn cyflogi myfyriwr yn dilyn lleoliad â Phrifysgol Bangor
Mae Rondo Media, sydd wedi’i leoli ar Ystâd Ddiwydiannol Cibyn, ar gyrion Caernarfon, wedi cyflogi cyn fyfyriwr o Brifysgol Bangor, Rhys Gwynfor o’r Bala yn dilyn lleoliad â’r cwmni o dan y Rhaglen Mynediad at Radd Meistr (ATM).
Mae Rondo Media yn un o brif gwmnïau cynhyrchu annibynnol aml-genre y DU, sy’n cynhyrchu cynnwys ar gyfer ystod eang o ddarlledwyr yn y DU ac yn rhyngwladol, gan gynnwys S4C, y BBC a Channel 4. Mae Rondo wedi bod yn gweithio â’r Brifysgol ar y rhaglen Mynediad at Radd Meistr er 2010 ac mae wedi cynnig cyfle i dri o fyfyrwyr o Brifysgol Bangor i weithio ym myd cyffrous cynhyrchu rhaglenni teledu. Wrth sôn am y profiad, dywedodd Bedwyr Rees o Rondo Media “Mae hwn y math o gyllid y dylid manteisio arno, a’r peth da am brosiectau fel ATM yw bod modd i ni estyn allan at y myfyrwyr mwyaf disglair a brwdfrydig. Mae gweithio ar brosiectau fel hyn yn ein helpu i feithrin cysylltiadau â’r Brifysgol mewn ffordd sy’n golygu ein bod ni’n gallu cynnig rhywbeth i’r myfyrwyr a’u bod hwythau hefyd yn gallu cynnig rhywbeth i ni”.
Meddai Rhys, sydd erbyn hyn wedi cael ei gyflogi gan Rondo Media ers dros flwyddyn, “Yn ystod fy lleoliad roeddwn yn cael fy annog i fynd i weithio yn y maes yn ogystal ag yn y stiwdio. Roeddwn yn cael cyfle i weld pob elfen o bortffolio Rondo a sut mae’n gweithio, pob cam yn y broses, ac mae hynny’n gyfle gwerth chweil i fyfyriwr. Yr uchafbwynt o gael bod yn gysylltiedig ag ATM i mi oedd cael cynnig swydd â’r cwmni, ac ers ymuno â Rondo rwyf wedi ysgrifennu tair sgript sydd wedi cael eu datblygu ar gyfer teledu, rhywbeth na fyddai wedi digwydd oni bai am y Rhaglen Mynediad at Radd Meistr”.
Dywedodd Rheolwr Prosiect Mynediad at Radd Meistr, Dr Penny Dowdney, am y cydweithredu â Rondo “Mae wedi bod yn hyfryd gweld myfyrwyr Prifysgol Bangor yn cael cyfle i brofi byd cyffrous teledu drwy’r Rhaglen Mynediad at Radd Meistr, ac roedd yn well byth i Rhys am ei fod wedi cael cynnig swydd o ganlyniad i’w waith caled a’i ymroddiad yn ystod ei leoliad.
Fel rhaglen, Mynediad at Radd Meistr yw eu cysylltiad cyntaf â’r Brifysgol i lawer o gwmnïau, ac mewn rhai achosion mae hynny wedi arwain at gysylltiadau pellach ag amrywiaeth o’r prosiectau ymgysylltu â busnesau eraill sydd gennym i’w cynnig. Yn ystod y pum mlynedd diwethaf mae’r Rhaglen Mynediad at Radd Meistr wedi cefnogi mwy na 330 o fyfyrwyr i sicrhau Cymwysterau Meistr ym Mhrifysgol Bangor yn unig, gan weithio â 169 o gwmnïau lleol.”
Mae Mynediad at Radd Meistr (ATM) yn gynllun sgiliau lefel uwch Cymru Gyfan sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Abertawe ar ran y sector Addysg Uwch yng Nghymru. Mae’n cael ei ariannu’n rhannol gan raglen gydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewrop Llywodraeth Cymru ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mehefin 2015