Safle Ymchwil yn cynnig y Cyfleusterau Diweddaraf i helpu’r diwydiant 'Gwyrdd’.
Mae safle diwydiannol £1M, dan ofal y Ganolfan Biogyfansoddion (Prifysgol Bangor) ar Ystâd Ddiwydiannol Llangefni ym Mona, wedi bod yn helpu cwmnïau lleol i brofi dewisiadau ecogyfeillgar eraill yn lle cynhyrchion presennol.
Mae offer newydd ar y safle, a brynwyd fel rhan o broject BEACON £20M, wedi galluogi Canolfan Trosglwyddo Technoleg Biogynhyrchion a Bioburo Prifysgol Bangor ym Mona i weithio gyda diwydiant i gynhyrchu deunyddiau cyfansawdd newydd i’r sectorau adeiladu a phecynnau. Mae’r ganolfan hefyd yn galluogi cwmnïau i weithio gyda Phrifysgol Bangor i ddwysau’r gwaith o echdynnu cemegolion gwerth uchel o safleoedd, gan ddefnyddio gweithdrefnau a ddatblygwyd ar raddfa fach mewn amgylchedd labordy arferol. Gellir defnyddio'r cemegolion hyn mewn amryw o ffyrdd yn y sectorau cosmetig, meddygol a maethroddi.
Mae’r Ganolfan Trosglwyddo Technoleg yn rhan o’r project Cymru gyfan, BEACON, partneriaeth rhwng prifysgolion Bangor, Aberystwyth ac Abertawe, sy’n helpu cwmnïau lleol yng Nghymru i ganfod ffyrdd newydd o ddefnyddio planhigion a sgil-gynhyrchion planhigion.
Mae’r Ganolfan yn adnodd gwerthfawr i ddiwydiant. Mae cwmnïau sy’n gweithio mewn amrywiaeth o ddiwydiannau’n gallu mynd at yr offer ymchwil a datblygu diweddaraf. Gallant brofi a datblygu cynhyrchion a phrosesau newydd heb orfod cau eu safleoedd cynhyrchu eu hunain.
Meddai'r Dr Adam Charlton o’r Ganolfan Biogyfansoddion “Mae’r cyfleuster hwn yn gweithio’n dda. Eisoes mae gennym brojectau cydweithredol llwyddiannus ar y gweill gyda chwmnïau lleol a bob wythnos mae mwy o gwmnïau’n dod ar ein gofyn.
Mewn digwyddiad arbennig a gynhaliwyd i ddangos y safle, dywedodd Mr Ieuan Wyn-Jones, AC Ynys Môn:
"Rwy'n gwbl gefnogol i'r project hwn ym Mona, sy'n darparu cyfleusterau ymchwil mawr ei angen ar gyfer ein sector cynhyrchu. Bydd yn sector cynhyrchu yn chwarae rhan allweddol wrth i'r economi dyfu allan o'r dirwasgiad. Bydd y gwaith a wnaed gan BEACON a Phrifysgol Bangor wrth sefydlu'r Ganolfan yn sicrhau bod cynnyrch cynaliadwy ar gael yn lleol ac yn sicrhau hwb i'r economi yma yn Ynys Môn a ledled gogledd Cymru."
Meddai’r Athro John Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor: “Rydym ni wrth ein bodd yn gallu gweithio gyda’n partneriaid BEACON a chyda diwydiant i harneisio’r arbenigedd yn y brifysgol er lles yr economi werdd yng Nghymru a’r tu hwnt”.
Astudiaeth Achos
MDF Recovery Ltd - http://www.mdfrecovery.co.uk/ sydd wedi ei leoli yn Ynys Môn
Mae MDF Recovery Ltd wedi datblygu proses newydd i adennill ffibrau pren o MDF gwastraff. Hyd yma, tirlenwi neu losgi oedd yr unig ddewisiadau i waredu MDF. Mae adennill MDF yn ateb ecolegol gwell i'r broblem o waredu MDF, oherwydd mae'n creu ffynhonnell deunydd crai newydd i'r diwydiant ffibrau pren/naturiol y gellir ei defnyddio yn lle coed newydd.
Gellir ailddefnyddio’r ffibrau hyn a adenillwyd i gynhyrchu rhagor o MDF neu at amrywiaeth o ddibenion diwydiannol eraill megis cynhyrchion ynysu thermol, tanwyddau biomas neu gyfansoddion plastig pren. Mae’r ffibrau a adenillwyd cystal o ran ansawdd â ffibrau pren newydd ond yn llawer mwy cynaliadwy.
Mae BEACON yn Aberystwyth a Bangor a’r safle ym Mona wedi helpu MDF Recovery i nodweddu'r ffibrau a adenillwyd ganddynt. Rhoddwyd cymorth hefyd trwy gyfres o dreialon ymarferol i ddangos effeithiolrwydd y ffibrau i greu cynhyrchion newydd.
Meddai Craig Bartlett, Cyfarwyddwr MDF Recovery:
Heb arbenigedd Bangor ni fyddem wedi gallu datblygu ein technoleg newydd gyffrous i gymaint graddau mewn cyfnod mor fyr. Rydym yn gwneud cynlluniau cyffrous i’r dyfodol ac rydym yn falch o fod yn gweithio yn Ynys Môn ac wrth ein bodd yn gallu manteisio ar gyfleusterau unigryw Mona. Edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio â Phrifysgol Bangor yn y blynyddoedd sydd i ddod.
EcoBond Cymru – Ynys Môn
Mae Ecobond (Cymru) Cyf. yn gwmni sydd yn canolbwyntio ar fasnacheiddio deunyddiau, technolegau a dulliau cynaliadwy a ddefnyddir yn y sectorau adeiladu ac ynni. Mae’n cyflawni amrywiaeth o swyddogaethau o astudiaethau dichonolrwydd a cheisiadau grantiau i ymchwil a datblygu uniongyrchol a rheoli projectau datblygu a arweinir gan drydydd parti. Ar hyn o bryd mae’r cwmni’n gweithio gyda nifer o gleientiaid gan gynnwys datblygwr teils to cynaliadwy., Mae’r cleient wedi datblygu proses ynni isel (patent ar y gweill) i fondio agregau eilaidd a gwastraff mwyngloddio'n ddeunydd y gellir ei ddefnyddio i doi a gorchuddio adeiladau. Mae’r teils a gynhyrchir yn edrych yn debyg i lechi lleol ond maent yn costio llai ac yn fwy cynaliadwy oherwydd eu bod yn defnyddio llai o adnoddau mwynol newydd a llai o ynni ymgorfforedig. Mae Ecobond Cymru’n gweithio tuag at fasnacheiddio’r dechnoleg hon.
Mae Ecobond Cymru’n cydweithio’n agos â Phrifysgol Bangor i wella ymhellach berfformiad technegol y teils a’u hôl troed carbon. Trwy ddatblygu a phrofi’r cynnyrch yn drefnus mae Prifysgol Bangor yn helpu Ecobond Cymru i ddod o hyd i agregau eilaidd cynaliadwy o ffynonellau eraill a resinau bioseiliedig eraill yn lle’r system resin bresennol. Mae’r gweithgaredd hwn yn cael ei gynnal fel rhan o Broject Ymchwil Diwydiannol Cydweithredol sy’n cynnwys partïon o bob rhan o’r gadwyn gyflenwi a chafodd grant A4B gan Lywodraeth Cymru.
Mae resinau bioseiliedig yn cael eu gwneud o ddeunyddiau adnewyddadwy megis deunydd planhigion a llysiau. Mae defnyddio resinau o’r fath sydd hyd yma wedi cael eu cynhyrchu o betrolewm yn arwain at gynnwys carbon ymgorfforedig llawer is ac mae’n well defnydd o adnoddau. Mae un o’r bioresinau a brofwyd wedi cael ei gynhyrchu gan ddefnyddio proses a ddatblygwyd ac yr enillwyd patent iddo gan Brifysgol Bangor. Mae'r llechi sy'n cael eu datblygu gan Ecobond Cymru'n rhoi cyfle delfrydol i arddangos y dechnoleg hon er lles masnachol.
Mae EcoBond Cymru wedi codi cyfleuster datblygu ar yr un ystâd ddiwydiannol â Phrifysgol Bangor ar safle Mona fel y bydd yn gallu manteisio ar y safle a’i gyfleusterau er mwyn arddangos y teils to’n fasnachol yn y pen draw. Mae clystyru o’r fath yn un peth da sydd wedi deillio o’r project BEACON ac yn pwysleisio’r angen am gydweithio rhwng y sectorau academaidd a diwydiannol.
Meddai Geraint Williams o Ecobond Cymru:
Mae cydweithio â Phrifysgolion Aberystwyth a Bangor wedi bod o fudd i'n busnesau mewn cynifer o ffyrdd, mae eu help a'u cefnogaeth wedi bod yn allweddol i'n strategaeth fusnes a llwyddiant ein busnes yn y farchnad hon.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mehefin 2012