Sam yn paratoi at gystadleuaeth quidditch yng Nghanada
Bydd myfyriwr o Fangor yn teithio i Ganada yn ystod yr haf er mwyn cymryd rhan mewn cystadleuaeth quidditch fyd-eang.
Mae Sam Davies, sydd yn fyfyriwr Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor, yn edrych ymlaen yn fawr at gael bod yn rhan o gamp sy’n gysylltiedig â nofelau a ffilmiau Harry Potter.
Mae gwledydd ar draws y byd yn cystadlu yn y Global Games - digwyddiad ble gwelir y cystadleuwyr yn defnyddio coesau ysgub i fynd o amgylch y maes.
“Roeddwn yn arfer bod yn ffan mawr o Harry Potter pan oeddwn yn ifanc ac yn mynd i holl berfformiadau cyntaf y ffilmiau a’r llyfrau. Ond mi wnes i dyfu allan o hyn yn raddol, a phan es i’r brifysgol a sylwi fod tîm quidditch yno, roeddwn yn meddwl y byddai’n gyfle da i ddysgu mwy amdano.” meddai Sam o Benyffordd.
Mae Sam yn chwarae i dîm lleol Bangor Broken Broomsticks a bu’n lwcus o gael ei ddewis i’r tîm Prydeinig yn ddiweddar.
“Mae paratoi at y gystadleuaeth fawr yng Nghanada wedi bod yn dipyn o her. Ar ôl cael fy nerbyn i’r sgwad Brydeinig, roedd yn rhaid i Andrew Hull, Sally Higginson, Tom Heynes a minnau (o Bangor Broken Broomsticks) fynychu treialon ffitrwydd cyn cael bod yn y tîm cenedlaethol. Cafodd aelodau eraill o Bangor Broken Broomsticks, Anna Barton, Lee Marsh, Will Johnson a Ben Honey eu derbyn i’r sgwad. Rydym ar hyn o bryd yn hyfforddi’n galed cyn mynd i Ganada ac yn cymryd pob cyfle i ymarfer gydag aelodau o’r tîm Prydeinig.” meddai Sam (20).
Er bod quidditch yn cael cydnabyddiaeth fyd-eang, teimlai Sam fod y gamp yn cael ei chwestiynu’n aml.
“Rwy’n teimlo’n hynod falch i gynrychioli fy ngwlad mewn chwaraeon, yn enwedig pan fydd pobl yn dweud nad yw’n gamp go iawn. Dwi’n falch o fod yn rhan o dîm cenedlaethol sydd yn brwydro’n galed i hyrwyddo cydraddoldeb rhyw ac yn rhoi cyfle i bawb.”
Bydd cystadleuaeth Cwpan y Byd Cymdeithas Ryngwladol Quidditch yn digwydd ar Orffennaf 19 yn Burnaby, Canada.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mai 2014