Santander yn cefnogi ymchwil iaith
Diolch i un o Ysgoloriaethau Santander bu Robat Trefor, un o fyfyrwyr ymchwil PhD Ysgol y Gymraeg, ar ymweliad â Gwlad y Basg yn ddiweddar, ac roedd yr Athro Peredur Lynch, ei gyfarwyddwr ymchwil a Phennaeth yr Ysgol, yntau’n rhan o’r ddirprwyaeth.
Uchafbwynt yr ymweliad â Phrifysgol Gwlad y Basg ar gampws Donastia oedd cael cyfarfod am fore cyfan â Pello Esnal, llenor o bwys ac un o’r arbenigwyr pennaf ar y Fasgeg. Mae’r traethawd PhD mae Robat yn gweithio arno yn edrych ar safoni Cymraeg ffurfiol, ac roedd cael clywed am hanes a thrafferthion safoni’r iaith genedlaethol yno gan gawr yn y maes yn werthfawr eithriadol.
Cafwyd croeso brwd yn y Brifysgol gan yr Athro Jasone Cenoz o’r Adran Dulliau Ymchwil mewn Addysg, ac aelodau o’i thîm hi oedd wedi trefnu’r cyfarfod â Pello Esnal fel rhan o raglen o ymweliadau ar gyfer y daith. Y tu allan i’r Brifysgol ei hun aethpwyd hefyd i swyddfa’r papur dyddiol lleol Hitza yn nhref Zarautz, a chafwyd cyfarfod estynedig arall gyda’r mudiad ysgolion cyfrwng Basgeg ar gyrion Donastia.
Yn y Brifysgol rhoddodd yr Athro Lynch a Robat sgyrsiau ill dau ar hanes ac ar safoni’r Gymraeg i’r staff a’r myfyrwyr. Bu cyfarfod yn ogystal â Deon y Gyfadran a’r Is-Ddeon dros Faterion Rhyngwladol lle trafodwyd cael mwy o gysylltiadau rhwng Prifysgol Bangor a Phrifysgol Gwlad y Basg yn y dyfodol, gan gynnwys rhaglen gyfnewid Erasmus.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mawrth 2012