Santander yn gwobrwyo syniadau busnes myfyrwyr
Cynhaliodd Prifysgol Bangor rowndiau terfynol cam cyntaf Cystadleuaeth Entrepreneuriaeth Santander yn ddiweddar.
Ar y diwrnod, cyflwynodd pump o fyfyrwyr israddedig a phum myfyriwr ôl-radd eu syniadau i banel o feirniaid, a oedd yn cynnwys Is-ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John G. Hughes, gan obeithio mynd ymlaen i gynrychioli Bangor yn rowndiau terfynol cystadleuaeth genedlaethol Santander ym mis Gorffennaf.
Roedd y Tîm Byddwch Fentrus wrth eu bodd yn derbyn 37 cynnig yn y bedwaredd flwyddyn o gynnal y gystadleuaeth. Bydd yr enillwyr nid yn unig yn mynd ymlaen i rowndiau terfynol y DU ond byddant hefyd yn cael cynnig mentora un-i-un ac yn derbyn siec am £200. Cafodd y myfyrwyr a ddyfarnwyd yn ail siec o £50.
Enillwyr yr adran i fyfyrwyr ôl-radd oedd y myfyrwyr Cyfrifiadureg Williams Faithfull a Francis Williams. Dyfarnwyd y myfyriwr Seicoleg Louise Ainsworth yn ail.
Yr enillwyr yn yr adran israddedig oedd y myfyriwr Dylunio Cynnyrch, Josh Williams, a enillodd y wobr gyntaf a Liam Fletcher, o'r un ysgol, a enillodd yr ail wobr.
Dywedodd William Faithful, sy'n wreiddiol o Basingstoke: "Soniodd ffrind wrthym am y gystadleuaeth; mae'n gyfle ariannu gwych gan y bydd enillydd rownd y DU yn ennill £20,000.”
Ychwanegodd Francis: "Mae'n deimlad gwych i ennill; doedden ni ddim yn ei ddisgwyl o gwbl."
Dywedodd enillydd yr adran myfyrwyr israddedig, Josh, o Gaer: "Mae'n teimlo’n aruthrol i ennill ac rwy'n edrych ymlaen at ddatblygu fy nghynnyrch ymhellach a helpu pobl. Rwy'n edrych ymlaen at y rownd derfynol.
"Mae'r gystadleuaeth hon yn dangos i chi'n union beth sydd ei angen ar gyfer cynnig syniad busnes ac mae wedi bod yn ymarfer da iawn ar gyfer gwaith ar ôl graddio."
Dywedodd Liam, a ddaeth yn ail yn yr adran i fyfyrwyr israddedig: "Mae'n wych cael gwybod bod y beirniaid yn credu y gallai eich cynnyrch fynd i'r farchnad. Mae'r holl gystadleuaeth wedi bod yn brofiad rhagorol. Mae'n gyfle i ymarfer cyflwyno cynnig busnes ac esbonio'r cysyniad tu ôl i'ch cynnyrch yn glir."
Dywedodd Diane Roberts, Rheolwr Cangen Santander ym Mhrifysgol Bangor, a oedd ar y panel beirniaid: "Mwynheais fy hun yn fawr a mwynhau'r deg cynnig busnes gan fyfyrwyr yn arbennig; roeddynt i gyd wedi gweithio'n galed iawn ac roedd pob un ohonynt yn syniadau da.
"Mae hynny diolch i waith caled Tîm Byddwch Fentrus Prifysgol Bangor. Rwy'n teimlo'n ddiolchgar iawn am fod yn rhan o'r digwyddiad rhagorol hwn i gydnabod y myfyrwyr talentog yma ym Mangor ac rwy'n falch iawn o fod yn rhan o Brifysgolion Santander a'r gwaith rydym yn ei wneud i gefnogi addysg uwch."
Y beirniaid eraill oedd Dr Andy Goodman, Cyfarwyddwr Canolfan Arloesi Pontio a Chris Walker, mentor y Rhaglen Cefnogi Menter sy'n cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr a graddedigion Bangor i ddatblygu eu syniadau.
Dywedodd Lowri Owen, o Dîm Byddwch Fentrus Prifysgol Bangor: "Mae Cystadleuaeth Entrepreneuriaeth Santander yn gyfle gwerthfawr i entrepreneuriaid sy'n fyfyrwyr a graddedigion o Brifysgol Bangor i arddangos eu syniadau ac mae'n galluogi Byddwch Fentrus i amlygu'r gefnogaeth sydd ar gael iddyn nhw.
"Mae cyflogwyr yn chwilio am ymwybyddiaeth fasnachol a sgiliau menter felly bydd myfyrwyr sy'n cymryd rhan yn gallu arddangos y nodweddion hyn i gleientiaid a chyflogwyr y dyfodol. Bydd yr holl gystadleuwyr yn derbyn pwyntiau profiad Gwobr Cyflogadwyedd Bangor am gymryd rhan."
Dyddiad cyhoeddi: 31 Mawrth 2014