Sarah yn ennill ras 10k
Sarah Caskey, 23, myfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor, oedd y ferch gyntaf i groesi'r llinell derfyn yn y ras 10k ‘Twin Piers’ yn Llandudno yn ddiweddar.
Bu i Sarah, myfyriwr israddedig blwyddyn gyntaf yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, ennill y cwrs mewn 39 munud a 32 eiliad.
Wrth ei bodd ar ôl ei ennill, dywedodd Sarah "Rwyf wedi bod yn ymarfer yn galed, ond doeddwn i ddim yn disgwyl ennill, rwy'n falch iawn ohonof fy hun!"
"Dewisais astudio ym Mhrifysgol Bangor oherwydd y mynyddoedd ac rwy’n gobeithio cychwyn rhedeg mynyddoedd cyn bo hir. Cymru hefyd yw fy hoff ran o Brydain oherwydd amrywiaeth y gweithgareddau awyr agored a’r golygfeydd syfrdanol. "
Ar ôl graddio, mae Sarah yn gobeithio naill ai bod yn athrawes Addysg Gorfforol neu ffisiotherapydd.
Mae’n rhedwr brwd, lle daeth yn ail yn Hanner Marathon Conwy'r llynedd. Gartref yn Peterborough, mae Sarah yn rhedeg gyda Chlwb Athletau Peterborough a Rhedwyr Ffordd Yaxley.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Ionawr 2013