Sawl gradd Meistr yn derbyn achrediad gan y CMI
Mae sawl rhaglen ôl-raddedig yn Ysgol Busnes Bangor wedi cael eu hachredu gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI), yr unig gorff proffesiynol siartredig ym Mhrydain sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo'r safonau uchaf o ragoriaeth ym meysydd rheoli ac arwain.
Mae'r achrediad yn golygu bod graddedigion cyrsiau Meistr Bangor mewn Busnes, Rheolaeth neu Farchnata yn ennill cymhwyster Lefel 7 CMI yn ogystal â'u gradd - heb unrhyw gost ychwanegol, a heb orfod astudio ymhellach.
Mae cymwysterau CMI yn uchel eu parch gan gyflogwyr am eu bod yn dystiolaeth o'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i berfformio mewn gweithle sy'n gynyddol gystadleuol. Trwy gwblhau un o'r rhaglenni canlynol ym Mangor, bydd graddedigion yn awtomatig yn ennill Dyfarniad CMI, Tystysgrif neu Ddiploma mewn Rheolaeth ac Arweinyddiaeth Strategol:
- MA Business and Marketing
- MA/MSc Business with Consumer Psychology
- MBA Environmental Management
- MBA Information Management
- MBA International Business
- MBA International Marketing
- MBA Law and Management
- MBA Management
- MA/MSc Management and Finance
Mae'r achrediad diweddaraf hwn yn pwysleisio natur ymarferol a blaengar ein haddysg ôl-radd yn Ysgol Busnes Bangor, sydd wedi bod yn arloeswr ym maes addysg busnes ers amser maith.
"Rydym yn hynod falch bod ein holl raglenni Ôl-radd Busnes, Rheoli a Marchnata wedi derbyn achrediad gan brif gorff proffesiynol y Deyrnas Unedig i Reolwyr, y Sefydliad Rheolaeth Siartredig", dywedodd yr Athro Gareth Griffiths, Cyfarwyddwr Astudiaethau Ôl-raddedig (Busnes, Rheoli a Marchnata). "Mae hyn yn rhoi mynediad digynsail i'n myfyrwyr at eu cyfleusterau gyrfaoedd cynhwysfawr, eu hystod enfawr o adnoddau ar-lein a chyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus."
Mae CMI yn ymuno â nifer o sefydliadau eraill sydd wedi cydnabod gwerth proffesiynol yr addysg ôl-radd yn Ysgol Busnes Bangor.
Mae'r Ysgol wedi hen sefydlu fel 'Canolfan Rhagoriaeth' y Sefydliad Bancwyr Siartredig, partneriaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ennill statws Banciwr Siartredig ynghyd â gradd Meistr draddodiadol mewn Bancio a Chyllid, a thrwy hynny gyfoethogi eu datblygiad addysgol a phroffesiynol yn sylweddol.
Gall myfyrwyr sydd ag uchelgais i ddilyn gyrfaoedd mewn marchnata, y gwasanaethau ariannol neu yswiriant fod ag opsiynau i astudio ymhellach gyda'r Sefydliad Marchnata Siartredig, y Sefydliad Siartredig Gwarantau a Buddsoddi neu'r Sefydliad Yswiriant Siartredig, yn dibynnu ar eu maes; gan eu galluogi i astudio tuag at gymhwyster proffesiynol a gydnabyddir gan y diwydiant.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Ionawr 2017