Sbarduno mentergarwch myfyrwyr gyda chymorth Santander
Mae myfyrwyr entrepreneuraidd Prifysgol Bangor bellach yn medru derbyn cefnogaeth estynedig gan Brifysgolion Santander, wrth i’r Brifysgol lansio rhaglen Sbarduno Menter Santander (SEA).
Mae SEA yn darparu cyfle unigryw i fyfyrwyr Prifysgol Bangor ac yn annog y rhai hynny sy’n arddel ysbryd o fentergarwch i ddefnyddio’u sgiliau a’u huchelgais i gychwyn busnesau yn y rhanbarth. Mae sawl llinyn neu lefel o gefnogaeth at gyfer myfyrwyr a graddedigion mentrus sydd yn awyddus i ddatblygu busnes neu broject.
Wrth esbonio’r rhaglen newydd sydd ar gael i fyfyrwyr a graddedigion diweddar, dywedodd Bryn Jones, Pennaeth Cyfnewid Gwybodaeth Prifysgol Bangor:
“Mae pedwar llinyn neu lefel o gefnogaeth ar gael i alluogi ein hentrepreneuriaid i ddatblygu eu busnesau. Gall myfyrwyr ddilyn taith ‘Darganfod, Diffinio, Datblygu a Danfonwch’, sydd yn cynnwys chwe mis yn M-SParc, parc gwyddoniaeth y Brifysgol, yn rhad ac am ddim. Mae’r rhain i gyd ar gael yn unigol neu’n raddol, fel y mae’r syniad busnes yn datblygu.”
Roedd y digwyddiad hefyd yn cadarnhau cefnogaeth Prifysgolion Santander o Brifysgol Bangor am dair blynedd arall. Bydd y gefnogaeth hon yn canolbwyntio ar gefnogi myfyrwyr, yn enwedig y rhai hynny o gefndiroedd ymestyn cyfranogaeth, gyda gweithgareddau entrepreneuriaeth, addysg a chyflogadwyedd.
Meddai Matt Hutnell, Cyfarwyddwr Santander Universities UK:
“Mae Santander wedi ymrwymo i gefnogi addysg uwch yn ogystal â chymunedau ledled y DU. Rydym yn falch o barhau ein Partneriaeth gyda Prifysgol Bangor am dair blynedd arall ac yn edrych ymlaen at gydweithio i ddarparu hyd yn oed mwy o gyfleoedd a fydd o fudd i fyfyrwyr a’r gymuned leol dros y blynyddoedd i ddod.”
Nododd yr Athro Graham Upton, Is-ganghellor Dros Dro Prifysgol Bangor, gefnogaeth ac anogaeth y Brifysgol dros entrepreneuriaeth ymysg ei myfyrwyr, gan ddweud:
“Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar sgiliau cyflogadwyedd ac eisoes â nifer o brojectau, modiwlau a chynlluniau cefnogi sydd yn annog myfyrwyr i fod yn entrepreneuraidd. Mae Sbarduno Menter Santander a’r cyfle i weithio yn M-SParc yn cynnig rhywbeth ychwanegol i’r rhai sydd yn dewis astudio ym Mhrifysgol Bangor. Rwy’n falch bod Prifysgolion Santander yn cefnogi myfyrwyr Bangor yn y modd hwn ac roeddwn wrth fy modd o glywed bod rhai o’n graddedigion yn dechrau sicrhau cyflogaeth gyda thenantiaid M-SParc.”
Dywedodd Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc:
“Rydym yn angerddol dros sicrhau bod myfyrwyr yn cael y gorau o M-SParc. Rydym wedi bod yn cynnal interniaethau i fyfyrwyr y Brifysgol ers cyn agor yr adeilad, ac mae ein tenantiaid bellach wedi cychwyn cynnig interniaethau ac efrydiaethau a lleoliadau gwaith. Mae’r rhaglen Sbarduno Menter yn gam nesaf ar y daith ac rydym yn gobeithio bod cael eu lleoli yn M-SParc i ddatblygu eu cwmnïau yn rhoi ymdeimlad o berthyn i’r byd entrepreneuriaeth i’r myfyrwyr. Unwaith y maent yn graddio, rydym yn gobeithio rhoi gofod iddynt adleoli’n llawn amser i M-SParc, gan sicrhau ei bod yn gwneud cyfraniad hirdymor i’r rhanbarth.”
Mae Jan Lloyd-Nicholson, myfyrwraig hŷn sydd yn nhrydedd blwyddyn ei gradd ym maes Seicoleg, wedi derbyn cefnogaeth gan Santander, ac fe siaradodd yn y lansiad. Yn ogystal â’i hastudiaethau a’i dyletswyddau fel rhiant, mae Jan yn datblygu ‘Henry’s cushion’, teclun sy’n gymorth ac yn adnodd addysgol i blant ag awtistiaeth.
Meddai Jan: “Mae’r Brifysgol wedi bod yn hynod gefnogol. Rwyf wedi ac yn parhau i dderbyn cefnogaeth gan Cefnogi Myfyrwyr ac mae gen i fentor hefyd. Mae fy nghynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys datblygu fy nghynnyrch ac rwy’n ceisio sefydlu busnes a’i wylio’n tyfu. Rwyf mor falch o fy mab a ddyluniodd y glustog, ac mae’r ffaith ei fod bellach wedi ennill tair gwobr yn fy ngwneud yn frwdfrydig dros ddatblygu’r cynnyrch ymhellach.”
Mae Santander, trwy ei is-adran Prifysgolion Santander, yn cynnal partneriaethau gyda dros 1,200 o sefydliadau academaidd mewn 20 o wledydd. Cyflwynwyd Prifysgolion Santander yn y DU yn 2007 ac erbyn hyn mae gan y banc bartneriaethau gyda dros 80 o brifysgolion, gan ddarparu dros £ 10m o gyllid yn 2018 i gefnogi staff a myfyrwyr prifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mai 2019