SCAC yn cynorthwyo’r Undeb Ewropeaidd i weithredu y Ddeddf Busnesau Bach yn dilyn llwyddiant grant enfawr
Mae Sefydliad Cystadleuaeth ac Astudiaethau Caffael (SCAC) Ysgol y Gyfraith Bangor wedi cael gwybod yn ddiweddar ei bod wedi llwyddo i gael grant enfawr dan gronfa COSME yr Undeb Ewropeaidd. Cronfa yw hon i godi’r awydd i gystadlu ymysg mentrau busnes bach a chanolig yn yr Undeb Ewropeaidd, ac i gynorthwyo’r UE i weithredu anghenion y Ddeddf Busnesau Bach (mae hwn yn fframwaith ar gyfer polisi’r UE i fusnesau bach a chanolig).
Mae prosiect PACT (Public Procurement and Cross-Border Tendering) yn fenter 5 partner werth €335,000, fydd yn gwella mynediad y mentrau busnes i farchnadoedd caffael cyhoeddus traws-ffiniol. Y bwriad yw manteisio ar y cyfleoedd sydd o’n blaen efo Chyfarwyddeb Caffael Cyhoeddus newydd Ewropeaidd.
Fe fydd y prosiect yn ymchwilio i rwystrau mae mentrau busnes yn eu hwynebu wrth wneud cynigion llwyddiannus am gontractau ar draws ffiniau, a darparu ymyrraeth a methodoleg sydd wedi eu harwain drwy ymchwil i oresgyn y rhwystrau yma. Bydd y methodoleg sydd wedi ei ddatblygu yn bwydo i mewn i aelodaeth Enterprise Europe Network o dros 600 o Siambrau Masnach; canolfannau technoleg; asiantaethau datblygu a sefydliadau ymchwil.
Yn gynwysedig yn y prosiect mae elfen o drosglwyddiad gwybodaeth enfawr, yn seiliedig ar waith cynharach Sefydliad Cystadleuaeth ac Astudiaethau Caffael wrth ddatblygu Methodoleg Adolygu Tendrau, a olygir fod y teclyn yma yn cael ei ddefnyddio gan bartneriaid PPACT ar draws Ewrop gyfan. Cafodd y methodoleg ei ddatblygu yn wreiddiol gan SCAC ym mhrosiect INTERREG Iwerddon/Cymru “Winning in Tendering”, a’i ddefnyddio hefyd fel astudiaeth achos Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil y DU. Mae ffocws PPACT ar sector “Smart City”, ac mae hefyd yn adeiladu ar fentrau eraill SCAC, gyda sector “Smart City” yn thema testun allweddol o fewn digwyddiadau Wythnos Gaffael SCAC yn 2015.
Wrth groesawu’r newyddion am y grant, dywedodd yr Athro Dermot Cahill, Prif Ymchwiliwr i PPACT: “mae’r grant yma yn ein galluogi i ddwysau ymchwil Bangor i weld paham bod tendro traws-ffiniol mor anodd, a’n cynorthwyo i ddadansoddi ymhellach sut gall rhwystrau i fasnachu traws-ffiniol gael eu goresgyn. Gyda dyfodiad Brexit, bydd gallu’r mentrau busnes i fasnachu yn rhwydd ar draws ffiniau yn dod yn bwysicach nag erioed, yn enwedig os yw’r DU yn mynd i ynysu ei hun y tu allan i farchnad yr UE.
“Bydd prosiect PPACT yn fwy arwyddocaol nag erioed wrth i Theresa May, y Prif Weinidog, gyhoeddi byd newydd dewr o fasnach byd-eang i ddiwydiant y DU. Fe fydd y mentrau busnes angen bod cymorth bosibl i ddarganfod, datblygu ac ennill contractau mewn marchnadoedd newydd. Yn y modd yma, mae PPACT yn hynod arwyddocaol, o gofio’r symudiad gofidus tuag at ddechrau proses Brexit”.
Ceri Evans a Gary Clifford o SCAC fydd Cyd-Ymchwilwyr y Prosiect, gyda Becky Jones yn ymgymryd â rôl Cydlynydd y Prosiect, a Dr Ama Eyo yn arwain elfennau ymchwil cyfreithiol caffael.
Bydd SCAC yn gweithio’n agos gyda partneriaid PPACT, o Sbaen, Ffrainc, yr Eidal a’r Iwerddon. Mae’r partneriaid yn cynnwys ACCIO (Asiantaeth Buddsoddiad a Masnach Rhanbarthol Catalan); CCI Paris Ile-de-France (Siambr Fasnach Paris mewn masnach a diwydiant sydd yn cynrychioli buddiannau 844,000 o fusnesau yn rhanbarth Paris), ac Unioncamere del Venetois (sefydliad o 7 Siambrau Masnach o Venice, yr Eidal).
Dyddiad cyhoeddi: 27 Ionawr 2017