Scholarship student and local bookshop join forces to promote literature.
Ydych chi erioed wedi teimlo nad ydych chi'n gwybod llawer am lenyddiaeth o Gymru? Ydych chi ffansi ymuno â grŵp llyfrau?
Wel, dyma'r cyfle euraidd i chi! Mae myfyriwr ôl-radd o Brifysgol Bangor, Alex Ross, a'r gwerthwr llyfrau annibynnol lleol, Eirian James, wedi ymuno i ddechrau grŵp llyfrau ym Mangor a fydd yn canolbwyntio ar ddarllen a thrafod llenyddiaeth o Gymru yn Saesneg.
"Mae dechrau grŵp llyfrau yn ein siop ym Mangor wedi bod yn fwriad gen i ers i ni agor y siop, dros dair blynedd yn ôl", dywedodd Eirian James sy'n berchennog a rheolwr Palas Print yng Nghaernarfon ac ym Mangor.
"Mae cael Alex yn gweithio gyda ni fel rhan o'i gwaith ymchwil MA yn awr yn rhoi'r cyfle perffaith i ni ei sefydlu" ychwanegodd.
Mae Alex Ross, o Wrecsam, yn astudio at radd MA gyda'r Ysgol Saesneg ym Mhrifysgol Bangor, a dyfarnwyd ysgoloriaeth Mynediad i Feistri (ATM) iddi gan y Brifysgol sy'n caniatáu iddi barhau â'i hastudiaethau, ac mae'n ofyniad arni i weithio gyda chwmni lleol i gysylltu ei gwaith ymchwil â'r economi leol.
Mae'r grŵp llyfrau Reading Wales, sy'n cael ei lansio ar Ddiwrnod Llyfrau'r Byd, ddydd Iau Mawrth 7, yn rhoi'r cyfle i bobl leol ddarganfod a thrafod llyfrau sydd wedi'u hysgrifennu yn Saesneg sydd â naws Gymreig.
Mae Alex eisoes wedi sefydlu blog o'r enw 'Reading Wales' (www.readingwales.wordpress.com) sy'n anelu at greu cymuned ar-lein i hyrwyddo a thrafod ysgrifennu cyfrwng Saesneg yng Nghymru, ac mae'r grŵp llyfrau yn rhoi'r cyfle i'r gymuned leol gymryd rhan.
"Mae Llenyddiaeth o Gymru yn Saesneg yn faes academaidd sydd ar dwf ond mae hefyd yn agored i bawb ac yn ddiddorol", dywedodd Alex Ross.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mawrth 2013