School Swap: Korea Style
Mae Rory Farmer, sy’n astudio am MA mewn cynhyrchu ffilmiau yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau, wedi dychwelyd yn ddiweddar o broject ffilmio yn Ne Korea.
Mae cwmni teledu Darlun TV, o’r Felinheli, wedi cynhyrchu rhaglen ddogfen mewn dwy ran i BBC Cymru Wales, School Swap Korea Style. Yn y rhaglen, mae tri disgybl yn eu harddegau o Sir Benfro yn cael blas ar gyfundrefn addysg sy’n cael ei hystyried yn un o’r rhai gorau yn y byd.
Bu Rory a Richard Longstaff, dyn camera o Ddinbych, a chriw llawrydd lleol yn gweithio gyda’r cynhyrchydd Arwyn Evans. Mae’r rhaglenni’n cael eu cyflwyno gan Siân Griffiths, Golygydd Addysg y Sunday Times.
Darlledir rhan gyntaf y rhaglen nos Lun, 28 Tachwedd ar BBC One Wales am 10.40pm, gyda’r ail ran nos Fawrth 29 Tachwedd am 10.40.. Bydd y rhaglen ar gael ar BBC iPlayer.
Meddai Rory: “Mi ddaeth y cyfle drwy’r Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau. Mi wnes i anfon fy CV ac enghreifftiau o ffilmiau ro’n i wedi gweithio arnyn nhw yn ystod fy nghwrs gradd yma ym Mangor. O fewn pythefnos, ro’n i yn Seoul gyda chriw o bobl broffesiynol o’r diwydiant nad o’n i erioed wedi eu cyfarfod o’r blaen.”
“Roedd astudio ym Mangor wedi fy mharatoi ar gyfer y gwaith. Ro’n i’n hyderus wrth ddefnyddio’r offer ac roedd gen i hyder fy mod i’n ddigon creadigol i fedru mynegi fy hun yn y gwaith yr o’n i yn ei wneud! Roedd y criw yn wych efo fi. Roedd y gwaith yn ddi-dor ond yn werth ei wneud. Mi wnes i ddysgu cymaint o’r profiad, o ran sgiliau technegol gwaith camera a dysgu am ddiwylliant De Korea!”
Dyddiad cyhoeddi: 28 Tachwedd 2016