Sefydliad Astudiaethau Cystadlu a Chaffael Ysgol y Gyfraith Bangor wedi ei henwebu am ddwy wobr effaith glodwiw
Unwaith eto, mae Sefydliad Astudiaethau Cystadlu a Chaffael Ysgol y Gyfraith Bangor wedi cyrraedd y rhestr fer o'r rownd derfynol ar gyfer Gwobrau Effaith ac Arloesi pwysig Prifysgol Bangor. Yn 2014, enwebwyd y sefydliad am ddwy wobr:
- "Effaith Fusnes Orau" (gwasanaeth Adolygu Tendrau'r Sefydliad Astudiaethau Cystadlu a Chaffael) a;
- "Effaith Orau ar Bolisi Cyhoeddus" (adroddiad Rhwystrau i Gyfleoedd Caffael).
Crëwyd y Gwasanaeth Adolygu Tendrau gan Sefydliad Astudiaethau Cystadlu a Chaffael Ysgol y Gyfraith Bangor o dan yr Athro Dermot Cahill a Ceri Evans, yn dilyn adroddiad a ddangosodd nad oedd yr adborth am dendrau caffael cyhoeddus yn ddigon ystyrlon. Mae'r Sefydliad yn llenwi'r bwlch hwn trwy fynd â chyflenwyr ar daith ddysgu drawsnewidiol, gan eu galluogi i weld trwy lygaid y caffaelwyr a nodi dulliau pendant o baratoi'r ceisiadau gorau posib yn y dyfodol.
Mae gwerthusiad annibynnol o'r Gwasanaeth Adolygu Tendrau wedi dangos tystiolaeth eang o effaith y Gwasanaeth, gyda llawer o fusnesau a bach a chanolig yn dyblu'r cyfraddau a enillwyd ganddynt ers y flwyddyn gynt. Mae cwmnïau sydd wedi elwa o waith y gwasanaeth wedi mynd ymlaen i ennill yng Ngwobrau Caffael Cenedlaethol Cymru mewn blynyddoedd dilynol. Bu'r gwasanaeth mor llwyddiannus fel bod llywodraeth Canada wrthi'n mabwysiadu'r fethodoleg i fusnesau bach a chanolig Canada, ac mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei gynnwys fel rhan o'u portffolio cefnogi tendro.
Meddai Gunther Kostyra, Gwerth Cymru (Llywodraeth Cymru) am y gwasanaeth: “Mae'r adroddiadau a gaiff cyflenwyr gan y Gwasanaeth Adolygu Tendrau yn waith defnyddiol iawn i fusnesau bach a chanolig sydd eisiau gwella eu ceisiadau”. Ategwyd y sylwadau hyn hefyd gan Ian Price, Cyfarwyddwr Cynorthwyol y CBI: “Mae'r Gwasanaeth wedi bod yn allweddol o ran caniatáu i lawer iawn o'n haelodau oresgyn arferion adborth gwael a gwella'r cyfraddau tendro maent yn eu hennill”.
Meddai Ceri Evans o Sefydliad Astudiaethau Cystadlu a Chaffael Bangor: “Mae'r Gwasanaeth Adolygu Tendrau wedi llwyddo i newid sefyllfa llawer o'r busnesau bach a chanolig rydym wedi gweithio gyda hwy, nid yn unig helpu'r busnesau hyn i gynnal eu gweithrediadau, ond hefyd i dyfu a chyflogi rhagor o staff”.
Mae gwaith Ysgol y Gyfraith, Bangor, wedi ennill cydnabyddiaeth hefyd yng Ngwobrau Effaith y Brifysgol o ran gwella tryloywder y broses dendro trwy'r ymchwil Rhwystrau i Gyfleoedd Caffael. Roedd y gwaith hwn hefyd yn cynnwys ymchwil arloesol i'r rhwystrau cyfreithiol a risg sy'n creu tagfeydd yn y system tendro gyhoeddus ac yn argymell dulliau i wneud y broses dendro yn fwy hygyrch ac effeithiol, gan ddileu rhwystrau diangen a oedd yn flaenorol yn atal cwmnïau llai rhag tendro'n llwyddiannus.
Cynhaliwyd yr ymchwil Rhwystrau i Gyfleoedd Caffael gan yr Athro Dermot Cahill, Ceri Evans a Gary Clifford o'r Sefydliad Astudiaethau Cystadlu a Chaffael. Yn 2013, dywedodd Ian Price, Cyfarwyddwr Cynorthwyol y CBI yng Nghymru: “Yr ymchwil i rwystrau yw'r darn gorau o ymchwil ym maes caffael cyhoeddus yng Nghymru yn y cyfnod modern, mae'n nodi tystiolaeth sylweddol o ddyblygu eang o ofynion data cyffredin a defnydd anghymesur o drothwyon risg amhriodol mewn tendro cyhoeddus”.
Mae John McClelland, CBE, yr un mor frwdfrydig am yr ymchwil: “Roedd yr ymchwil gan Fangor yn rhagorol. Bu'n arloesol yn lansio mentrau sy'n gallu trawsnewid mynediad cyflenwyr at gyfleoedd tendro cyhoeddus”. Yn dilyn adroddiad McClelland ym mis Rhagfyr 2012, rhoddodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid, fandad i bob un o'r 16 argymhelliad yn yr adroddiad ar rwystrau trwy Ddatganiad Polisi Caffael Cyhoeddus Cymru.
Meddai'r Athro Dermot Cahill: “Mae'n fraint ein bod yn gallu cymryd ymchwil academaidd a'i addasu i gael yr effaith fwyaf bosib o'r bunt yng Nghymru, cynyddu cyflogaeth a helpu busnesau Cymru i ennill rhagor o gontractau yn y sector cyhoeddus”.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Gorffennaf 2014