Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor
Ar 17 Ebrill 2012 yn y Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad yn Llundain llofnodwyd Memorandwm o Ddealltwriaeth rhwng Prifysgol Bangor a Hanban (Pencadlys Sefydliad Confucius) i sefydlu Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor mewn cydweithrediad â Phrifysgol Gwyddor Gwleidyddiaeth a’r Gyfraith China, Beijing.
Fel un o seremonïau llofnodi cytundebau cydweithio rhwng y DU a China ym meysydd diwylliant, addysg a busnes, bu Mr Ll Changchun, aelod o Bwyllgor Sefydlog Politbiwro China ac Ysgrifennydd Tramor y DU, Mr William Hague, yn dystion i'r seremoni.
Ar ôl llofnodi’r cytundeb â Ms Xu Lin, Cyfarwyddwr Cyffredinol Hanban, meddai Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, Yr Athro John G. Hughes:
“Mae hwn yn ddatblygiad mawr i Brifysgol Bangor. Mae diwylliant Tsieineaidd yn dod yn gynyddol bwysig mewn datblygiad economaidd rhanbarthol a byd-eang, ac mae ei bresenoldeb i'w deimlo mewn llawer i fan, yn cynnwys yma yn rhanbarth Gogledd Cymru.
Bydd sefydlu’r Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor yn fodd i feithrin dealltwriaeth o ddiwylliant Tsieineaidd ymysg pobl y rhanbarth sydd, yn ôl arolygon diweddar, â diddordeb mawr mewn dysgu mwy am yr amryfal wahanol agweddau ar ddiwylliant Tsieineaidd.
Rydym yn hynod falch o fynd i’r bartneriaeth yma gyda Phrifysgol Gwyddor Gwleidyddiaeth a’r Gyfraith China. Mae’r ddwy Brifysgol yn rhannu’r un weledigaeth o gael Sefydliad Confucius a blas Cyfreithiol arbennig iddo.
Yn ogystal, rwy’n hyderus y bydd sefydlu’r Sefydliad Confucius ym Mangor yn agor y drysau i’n myfyrwyr a’n cymuned leol i lawer agwedd arbennig ar ddiwylliant Tsieineaidd, yn cynnwys cerddoriaeth Tsieineaidd, coginio, iaith, hanes, caligraffi a thraddodiadau, a gwneud cyfraniad newydd i gyfnewid a dealltwriaeth ddiwylliannol rhwng ein dwy genedl a phobl."
Mae Llywydd Prifysgol Gwyddor Gwleidyddiaeth a’r Gyfraith China, Yr Athro, HUANG Jin, wedi croesawu’r cyhoeddiad yn gynnes, gan ddweud:
“Confucius oedd y meddyliwr, yr addysgwr a’r athronydd enwocaf yn yr hen China. Ystyrir ei ddamcaniaeth o "Zhong (Teyrngarwch)", "Shu (Goddefgarwch)" a "Zhong Yong (Y Canol Euraid)" yn hanfod diwylliant Tsieineaidd ac mae wedi cael dylanwad pellgyrhaeddol ar ddatblygiad traddodiadau Tsieineaidd. Fe wnaeth Adam Smith, yr economegydd, moesegydd ac athronydd ym Mhrydain y ddeunawfed ganrif egluro ei ddamcaniaeth o “gydymdeimlad”, "goddefgarwch” ac “ymddygiad priodoldeb” yn ei lyfr arloesol The Theory of Moral Sentiments yn 1759. Roedd Confucius ac Adam Smith yn canolbwyntio ar gytgord pobl a chymdeithas. Mae diwylliannau dwyreiniol a gorllewinol yn rhannu gwerthoedd cyffredin, a ddilynir ar hyd llwybrau gwahanol.
Mae Prifysgol Bangor yn Brifysgol adnabyddus ledled y byd, gyda thraddodiad diwylliannol maith ac addysg o ansawdd uchel. Mae Prifysgol Gwyddor Gwleidyddiaeth a’r Gyfraith China yn Brifysgol flaenllaw ym maes addysg y gyfraith, ac mae wedi ymrwymo i sefydlu cymdeithas wedi’i seilio ar reolaeth y gyfraith, datblygiad economaidd, ffyniant diwylliannol a chytgord cymdeithasol. Mae cenhadaeth a delfrydau cyffredin y ddau sefydliad wedi arwain at sefydlu'r Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor. Rwy’n credu y bydd sefydlu’r Sefydliad Confucius yn dyfnhau'r cydweithio a chyfathrebu rhwng y ddau sefydliad yn ogystal â rhwng y ddwy wlad.”
Mae gan Ysgol y Gyfraith flaenllaw Bangor gysylltiadau helaeth â nifer o brif ysgolion y gyfraith yn China ac mae’n denu myfyrwyr disglair ac athrawon y gyfraith o China yn rheolaidd.
“Nawr rydym eisiau mynd â phethau gam ymhellach,” eglurodd Yr Athro Dermot Cahill, Pennaeth yr Ysgol y Gyfraith ym Mangor. “Mae’r Tsieineaid yn dod yma i ddysgu amdanom ni, nawr mae'n bryd i ni ddysgu mwy amdanynt hwy. Mae hyn yn newyddion gwych i ranbarth Gogledd Cymru ac i Brifysgol Bangor. Mae Llywydd CUPL ei hun yn ysgolhaig amlwg ym myd y gyfraith, felly mae’n glir bod Is-Gangellorion y ddwy Brifysgol yn cefnogi'r cynllun hwn ar y lefel uchaf, ac yn cadarnhau y bydd llwyddiant y Sefydliad hwn yn flaenoriaeth uchel i'r ddwy Brifysgol a chryfhau dealltwriaeth ddiwylliannol ehangach."
Caiff y Sefydliad Confucius ei lansio’n ffurfiol ym Medi 2012 ym Mhrifysgol Bangor. Disgwylir i Gyfarwyddwr Cyffredinol Hanban, Ms Xu Lin fod yn bresennol yn yr achlysur lansio ynghyd â dirprwyaeth o staff a myfyrwyr o Brifysgol Gwyddor Gwleidyddiaeth a'r Gyfraith China dan arweiniad y Llywydd Huang.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ebrill 2012