Sefydliad Confucius yn dod a dysgu iaith Tsieinëeg i Fangor
Mae’r iaith Tsieinëeg ymysg y pum iaith fwyaf poblogaidd i’w dysgu, yn ôl erthygl yn Newyddlen Sefydliad Confucius yma.
Yn dilyn lansiad llwyddiannus y Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor yn gynharach y flwyddyn academaidd hon, mae’r Sefydliad Confucius wedi dechrau ar raglen ddiddorol ac amrywiol o weithgareddau i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am ddiwylliant Tsieineaidd. Mae'r rhain yn cynnwys ystod o ddosbarthiadau iaith Tseineaidd.
Cynhaliwyd dosbarth Tsieinëeg i ddechreuwyr llwyddiannus iawn, a gynigwyd drwy'r Ysgol Ieithoedd Modern, y semester hwn, a bydd yn cael ei gynnig fel modiwl blynyddol yn y dyfodol. Roedd tua 20 yn dilyn y cwrs, a oedd ar gael i fyfyrwyr Prifysgol Bangor ac i'r gymuned leol drwy gyfrwng rhaglen Dysgu Gydol Oes.
Semester nesaf, bydd myfyrwyr yr Ysgol Fusnes ac yn wir unrhyw fyfyrwyr y Brifysgol sy’n dysgu Tsieinëeg Busnes lefel canolradd yn gallu manteisio ar y cyfle i gael tiwtora un i un. Bydd hyn yn cael ei hwyluso gan fyfyrwyr a staff brodorol Tsieineaidd y Brifysgol.
Mae'r addysgu Tsieinëeg yn cael ei ddarparu gan ddau Athro Iaith Tsieinëeg proffesiynol o Brifysgol Tsieina dros Wyddor Wleidyddol a Chyfraith, sef partneriaid Prifysgol Bangor yn Sefydliad Confucius.
Mae'r Ganolfan Confucius hefyd yn trafod datblygu 'ystafelloedd dosbarth Confucius' gyda sawl ysgol yn y rhanbarth, ac o ran cynnig Tsieinëeg at safon Lefel A. I'r perwyl hwn, mae'r Sefydliad yn gwneud cais am gydnabyddiaeth fel canolfan brawf lefel A Tsieinëeg. Bydd y Sefydliad hefyd yn darparu profion safonol hyfedredd Iaith Tsieinëeg o 2013 ymlaen. Bydd y profion hyn yn mesur gallu myfyrwyr i ddefnyddio’r iaith Tsieinëeg yn eu hastudiaethau, eu bywyd personol a gwaith.
Mae Ysgol y Gyfraith hefyd yn gobeithio dilysu gradd newydd, y Gyfraith gydag Astudiaethau Tsieineaidd, i ddechrau ym mis Medi 2013.
Am fwy o wybodaeth am y dosbarthiadau a digwyddiadau eraill y Sefydliad Confucius ewch i'w gwefan neu e bostiwch Confuciusinstitute@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2012