Sefydliad Iechyd y Byd yn dod i gynhadledd ar y diciâu yn yr Ysgol Cemeg
Daeth gwyddonwyr, swyddogion llywodraeth a chynrychiolwyr o Sefydliad Iechyd y Byd i Ysgol Cemeg Prifysgol Bangor i gymryd rhan mewn cynhadledd ar brofi a chanfod y diciâu yn ddiweddar.
Mae'r grŵp ymchwil electrogemeg a biosynwyryddion, dan arweiniad Dr Chris Gwenin, yn arbenigo ym maes technoleg synwyryddion. Cafodd y grŵp gyllid gan gyfadran rhyngwyneb bioleg cemeg Cymdeithas Frenhinol Cemeg i gynnal y gynhadledd, y cyntaf o'i bath yng Nghymru. Daeth gwyddonwyr ac arbenigwyr llywodraeth ynghyd yn y gynhadledd i roi cyflwyniadau ar wahanol agweddau ar y diciâu, yn cynnwys profi a thrin y clefyd mewn pobl ac anifeiliaid a'r cyfyngiadau sy'n wynebu ffermwyr, clinigwyr, llywodraethau a gwyddonwyr.
Dywedodd Dr Gwenin, "Dyma'r tro cyntaf inni ddod â grŵp mor amrywiol o arbenigwyr ynghyd ac mae pob siaradwyr wedi trafod thema wahanol yn ymwneud â chynllunio a defnyddio synwyryddion. Rhoddodd y gynhadledd drosolwg holistig ar y problemau mae'r clefyd hwn yn ei achosi gan gynnig syniadau i gydweithio arnyn nhw yn y dyfodol a digon o bethau i'r arbenigwyr gnoi cil arnyn nhw ar ôl y digwyddiad. Roedd y gynhadledd mor llwyddiannus fel ein bod yn gobeithio ei gwneud yn ddigwyddiad blynyddol."
Bydd y digwyddiad yn galluogi'r Ysgol Cemeg i barhau i feithrin y dechnoleg newydd hon er mwyn datblygu dyfeisiadau unigryw sy'n gallu rhoi diagnosis o glefydau mycobacteraidd yn ddi-oed, yn cynnwys y diciâu.
Mae'r brifysgol wedi cyflwyno nifer o geisiadau patent yn y maes hwn ac mae'n chwilio am bartneriaid ym maes iechyd cyhoeddus a diagnosteg er mwyn parhau â'r ymchwil ac ystyried y posibiliadau masnachol.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Gorffennaf 2013