Sefydlu cysylltiadau gyda Japan mewn meddyginiaethau wedi’u personoli
Sefydlu cysylltiadau gyda Japan mewn meddyginiaethau wedi’u personoli
Roedd yr Athro Dyfrig Hughes, cyd gyfarwyddwr y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau, ymhlith 7 o’r DU a wahoddwyd gan Lysgenhadaeth Prydain yn Tokyo i gymryd rhan mewn gweithdy ar feddyginiaethau wedi'u personoli. Trefnwyd y gweithdy gan adran Gwyddoniaeth ac Arloesi y Llysgenhadaeth gyda chefnogaeth Cronfa Partneriaeth Fyd-eang Llywodraeth y DU. Amcan y gweithdy oedd atgyfnerthu'r cydweithio rhwng y DU a Japan i sefydlu cysylltiadau cynaliadwy tymor hir mewn ymchwil a datblygu ym maes gwyddoniaeth ac arloesi.
“Meddyginiaethau wedi'u personoli yw’r syniad y gall meddyginiaethau gael eu haddasu ar gyfer geneteg cleifion unigol," eglurodd yr Athro Hughes. “Mae rhai cleifion yn agored i adweithiau andwyol cyffuriau, neu’n methu â chael y budd therapiwtig a ddymunir. Mae profion geneteg sy’n dynodi’r cleifion hyn yn dod ar gael fwyfwy, ac yn galluogi meddygon i ragnodi meddyginiaethau amgen.”
Dilynwyd y sesiwn agoriadol gan Syr David Warren, Llysgennad Prydain yn Japan, gan gyfres o gyflwyniadau gan ymchwilwyr o’r DU a Japan. Roedd cyflwyniad yr Athro Hughes yn canolbwyntio ar oblygiadau economaidd profion geneteg a, thrwy ddefnyddio enghreifftiau o’i waith, yn dangos sut mae’n rhaid i wneuthurwyr penderfyniadau gael gwybodaeth am effeithiolrwydd cost y profion fel bod GIG yn cefnogi eu defnyddio. Daeth yr Athro Syr Bruce Ponder, Cyfarwyddwr Cancer Research UK Cambridge Research Institute, â’r gweithdy i ben gydag awgrymiadau am gydweithio at y dyfodol.
http://ukinjapan.fco.gov.uk/en/news/?view=News&id=727907182
Dyddiad cyhoeddi: 27 Chwefror 2012