Coleg Seiciatryddol BrenhinolMae seiciatrydd a leolir yn Wrecsam wedi derbyn gwobr cyflawniad oes gan y Coleg Seiciatryddol Brenhinol, am ei waith di flino yn gwella gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ddifreintiedig a'r rhai ar y cyrion.
Cyflwynwyd Yr Athro Rob Poole gyda'r wobr gan Alistair Campbell, cyn Ysgrifennydd y Wasg yn Stryd Downing ac ymgyrchydd dros iechyd meddwl, mewn seremoni wobrwyo fawreddog yn Llundain ar 6 Tachwedd.
Mae'r Athro Poole yn cyfuno gwaith fel Ymgynghorydd Anrhydeddus mewn seiciatreg gysylltiol yn Ysbyty Maelor Wrecsam, gyda'i swydd academaidd ym Mhrifysgol Bangor, lle mae'n Athro Seiciatreg Cymdeithasol yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas.
Fe'i cydnabuwyd gan y Coleg Seiciatryddol Brenhinol am ei waith ymchwil clinigol, addysgol a chreu polisïau mewn iechyd meddwl am dros 30 o flynyddoedd.
Mae'r Athro Poole yn academydd nodedig ac wedi ysgrifennu'n helaeth am y meysydd hyn, ac wedi derbyn cydnabyddiaeth ryngwladol am lyfrau mae o wedi’u cyd-ysgrifennu am sgiliau seiciatryddol clinigol a'r cysylltiad rhwng iechyd meddwl a thlodi.
Cydsefydlodd y Ganolfan Ymchwil Iechyd Meddwl a Chymdeithasol yn 2012. Mae'r ganolfan yn arwain grŵp rhyngwladol i ddeall a lleihau hunan laddiad a hunan niweidio yn ne Asia (Blaengaredd Hunan Niweidio De Asia: GCRF-SASHI).
Gan dalu teyrnged i lwyddiant yr Athro Poole, dywedodd Alberto Salmoiraghi, Cyfarwyddwr Meddygol Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu yn BIPBC:
"Mae'r wobr hon yn gydnabyddiaeth o gyfraniad oes Rob i wella gwasanaethau iechyd meddwl fel clinigydd rheng flaen, drwy ddadleuon cyhoeddus, y wasg ac yn fwy diweddar drwy ymchwil rhyngwladol.
"Mae ei arddull heriol yn ysgogi ffyrdd gwahanol o feddwl ac yn aml mae o wedi codi proffil iechyd meddwl."
Meddai'r Athro Poole: "Rydw i wedi'n syfrdanu fy mod wedi cael y wobr hon, ond rwy'n hynod falch ei bod wedi dod i ogledd Cymru ac i seiciatrydd cymdeithasol.
"Yn gynnar yn fy ngyrfa, mi wnes i sylweddoli bod baich mwyaf salwch meddwl yn disgyn ar ysgwyddau’r bobl sydd â'r lleiaf o adnoddau ariannol a phersonol. Rwy'n credu mewn sefydlu gwasanaethau seiciatryddol cyfeillgar i'r defnyddiwr sydd o ansawdd dda, i'r rhai sydd â'r lleiaf, gan ei fod yn rhan hanfodol o'r ymdrech yn erbyn anghyfiawnder ac anghydraddoldeb cymdeithasol."
Ffynhonnell: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Dyddiad cyhoeddi: 9 Tachwedd 2017