Seicoleg yn Dathlu
Dathlodd yr Ysgol Seicoleg ei phen-blwydd yn hanner cant gyda Pharti Ceildh yn awyrgylch ysblennydd Neuadd PJ ym Mhrifysgol Bangor nos Iau, 4 Gorffennaf. Ymunwyd â staff a myfyrwyr presennol gan alumni a chyn aelodau staff, rhai gwahoddedigion arbennig, yn ogystal â cynadleddwyr o'r Gynhadledd EPS ac Ysgol Haf ERP yr Ysgol Seicoleg, a oedd yn cael eu cynnal ym Mangor yr wythnos hon.
Yn ogystal â chael cyfle i wybod mwy am yr hyn a gyflawnwyd dros yr hanner canrif ddiwethaf yn yr Ysgol, cafodd y rhai a ddaeth i'r parti ymuno mewn dawnsiau Celtaidd a hyd yn oed fwynhau peint o Freudian Sip, sef cwrw arbennig a fragwyd gan grŵp o fyfyrwyr o Brifysgol Bangor, a oedd yn rhan o'r tîm buddugol 'University of Ales' a gynrychiolodd Gymru yn ffeinal Prydain y Rhaglen Dechrau Busnes i Entrepreneuriaid Ifanc. Cawsant eu mentora gan yr Athro Intrilligator, Cyfarwyddwr rhaglen graddau meistr mewn Seicoleg Defnyddwyr a Busnes ym Mangor.
Meddai'r Athro Charles Leek "Roedd yn noson wych y gwnaeth pawb ei mwynhau'n fawr iawn. Mae'n siŵr ei bod yn briodol hefyd fod adran sy'n ymfalchïo yng nghryfder ei gwaith ymchwil a'i hawyrgylch gyfeillgar wedi treulio'r noson yn dathlu'r hanner canfed pen-blwydd gydag amrywiaeth mor eang o bobl." Gellwch gael mwy o hanes yr adran dros yr hanner canrif a aeth heibio drwy fynd i we-dudalennau'r dathlu."
Dyddiad cyhoeddi: 8 Gorffennaf 2013