Seicolegwyr yn cyfrannu at fwynhad arddangosfa newydd
Mae Ysgol Seicoleg enwog Prifysgol Bangor wedi bod yn cydweithio efo oriel gelf cyfoes MOSTYN yn Stryd Vaughan, Llandudno ar eu harddangosfa newydd, sydd i’w lansio yn fuan. Mae’r Arddangosfa, 'TI' i gyd am y gwyliwr.
Yn dod â gweithiau ynghyd gan bum artist byd-enwog - Felix Gonzalez-Torres, Aurélien Froment, Jeppe Hein, Július Koller a Rivane Neuenschwander - bydd yr arddangosfa yn gofyn i ymwelwyr ymwneud â’r gwaith mewn ffyrdd uniongyrchol sydd ddim yn rhan o’r profiad cyffredin wrth ymweld ag oriel.
Mae pob darn o waith yn gwahodd ymwelwyr i’r oriel i ryngweithio yn y fath fodd fel eu bod nhw yn cwblhau'r gwaith celf ac yn rhan o nod yr oriel i herio confensiwn y berthynas rhwng yr oriel a'r gynulleidfa. Bydd y gweithiau yn yr arddangosfa yn cael eu trawsnewid a’u hailweithio’n gyson gan weithredoedd yr ymwelydd. Mae chwarae, creadigrwydd, datrys problemau a safbwyntiau newydd yn creu arddangosfa fydd yn herio a diddori pob oed.
A dyna lle mae’r Ysgol Seicoleg wedi bod o gymorth. Yn ychwanegol at y gwaith celf bydd arddangosfa ac eitemau gan yr Ysgol yn cynnwys arteffactau diwylliannol, dogfennau ac eitemau eraill sy’n dangos y cysylltiad rhwng gwrthrychau a'n gwybyddiaeth.
Dywedodd yr Athro Guillaume Thierry o Brifysgol Bangor:
"Mae'r arddangosfa ym MOSTYN yn torri tir newydd. Mae pobl yn aml yn ystyried y profiad o gelf fel un goddefol ond mae hyn yn anghywir, wrth fod ein hymennydd yn dehongli'r byd, drwy'r amser. Mae ein meddwl yn adeiladu realiti a’r profiad o harddwch. Mae’r arddangosfa TI yn gwneud hwn yn gyswllt pendant.”
Mae gwahoddiad i’r cyhoedd i’r Noson Agoriadol sydd nos Wener 26 Ebrill am 6.30 yn Oriel Mostyn, Llandudno.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2013