Seremoni Raddio'r Gaeaf Prifysgol Bangor
Dyfarnwyd graddau i dros 400 o fyfyrwyr yn seremoni raddio gaeaf Prifysgol Bangor yn ddiweddar.
Yn ystod y seremoni, llongyfarchodd Yr Athro John G Hughes yr holl raddedigion, a mynegodd ei ddiolch i’w rhieni, teuluoedd a chyfeillion am gefnogi'r myfyrwyr yn ystod eu hastudiaethau.
Graddiodd Sophie Burgess o Benygroes gyda gradd BN Nyrsio Oedolion. Yn ddiweddar, daeth yn ail yng Ngwobrau Myfyriwr Nyrsio'r Flwyddyn 2017. Mae Sophie wedi cael effaith sylweddol ar sut mae'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yn croesawu eu grwpiau myfyrwyr ac mae'n lladmerydd dros yr iaith Gymraeg. Mae wedi helpu i ddatblygu Project Hyrwyddwyr y Gymraeg sy'n cael ei arwain gan fyfyrwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac mae hi wedi cymryd rhan weithgar wrth hyrwyddo gyrfaoedd nyrsio yng Nghymru gydag ymgyrch 'Gwlad, Gwlad. Hyfforddi, Gweithio, Byw ', Deoniaeth Cymru/GIG Cymru.
Meddai Sophie: "Rwy'n falch iawn fy mod yn graddio heddiw, ac rwyf wedi mwynhau fy amser ym Mhrifysgol Bangor. Rwyf wedi cael nifer o brofiadau gwerthfawr yma – roedd cyrraedd rownd derfynol Gwobr Myfyrwyr Nyrsio'r Flwyddyn CBN 2017 yn gamp, ond roedd dod yn ail a chael y braint o dderbyn gwobr ymhlith fy narlithwyr a nyrsys ysbrydoledig yn anrhydedd. Camp bersonol, felly, ond rwyf fwyaf diolchgar bod fy mrwdfrydedd i godi ymwybyddiaeth am yr iaith Gymraeg o fewn Gofal iechyd a chefnogi myfyrwyr nyrsio wedi derbyn sylw. Rwyf wedi cael yr amser gorau ym Mhrifysgol Bangor a hoffwn diolch yn fawr iawn i fy nhiwtor personol a darlithwyr Campws Bangor am eu cefnogaeth aruthrol. Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoli myfyrwyr eraill i fanteisio ar yr holl gyfleoedd gwych sydd ar gael ac i wneud gwahaniaeth.”
Cafodd Michael Howard, sy’n wreiddiol o Glan Conwy, radd Meistr yn y Gyfraith gyda rhagoriaeth a hefyd derbyniodd y wobr ‘myfyriwr gorau’ ar y rhaglen LLM Y Gyfraith.
Meddai Michael: "Rwyf wrth fy modd fy mod yn gallu parhau i astudio’r gyfraith ym Mhrifysgol Bangor. Daw fy nhad yn wreiddiol o Dreborth, a ges i fy magu yn Nyffryn Conwy. Prifysgol Bangor oedd y dewis amlwg ar gyfer y cwrs LLM gyda nifer o academyddion blaenllaw ac ystod eang o arbenigeddau yma. Mae gan y Brifysgol gysylltiadau cymunedol cryf ac mae'n hyrwyddo ethos o hunan-welliant. Mae Bangor yn ddinas gwirioneddol hardd, wedi ei gosod rhwng y môr a’r mynyddoedd. Yn ystod y cwrs, cefais y cyfle i fynychu’r cyfarfod bwrdd crwn Cyfraith Eiddo Deallusol cyntaf ac yr wyf wedi mwynhau ystod eang o ddarlithoedd gan academyddion a fu’n ymweld â Bangor, yn ogystal â manteisio ar y cyfleusterau addysgu ac ymchwil rhagorol sydd ar gael yma. Yn y man, byddaf yn cychwyn ar radd PhD ym maes Cyfraith Eiddo Deallusol dan oruchwyliaeth Dr Mark Hyland. Bydd fy noethuriaeth yn archwilio'r rhyngwyneb cymhleth rhwng y Gyfraith Eiddo Deallusol a'r Gyfraith Gystadleuaeth, sy’n thema hynod flaengar."
Yn chwech oed, collodd Elinor Smith o Wrecsam ei thad. Pan yr oedd yn hŷn, penderfynodd ddilyn gyrfa nyrsio. Heddiw, mae hi'n graddio gyda Gradd BN Nyrsio Oedolion. Meddai: "Rwy'n falch iawn o fod yn graddio heddiw, gan fy mod wedi cael fy ysbrydoli i fod yn nyrs ar ôl cael cefnogaeth gan Hosbis Tŷ'r Eos pan yn blentyn, i'm helpu i ddelio â marwolaeth sydyn fy nhad." Mae Elinor nawr yn gweithio yn Ysbyty Orthopaedig Robert Jones ac Agnes Hunt, Gobowen.
Derbyniodd Eilir Jones o Langefni MA mewn Gwaith Cymdeithasol. Meddai: “Rwy’n falch iawn i fod yn graddio heddiw ar ôl cyfnod pleserus yn astudio ym Mhrifysgol Bangor.”
Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2017