Seremoni Raddio y Gaeaf Prifysgol Bangor
Dyfarnwyd dros gant ac ugain gradd ôl-raddedig i fyfyrwyr yn y seremoni raddio gyntaf i’w chynnal yn y gaeaf ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar.
Yn ystod y seremoni llongyfarchodd Yr Athro John G Hughes, yr holl raddedigion, a diolchodd yr holl rieni, teuluoedd a chyfeillion y graddedigion am gefnogi'r myfyrwyr yn ystod eu hastudiaethau.
Roedd Ian Roberts, 46, o'r Felinheli, nid yn unig yn graddio gyda MBA mewn Rheolaeth gyda rhagoriaeth, ond hefyd yn ennill gwobr myfyriwr blwyddyn olaf ôl-raddedig gyda'r perfformiad gorau mewn busnes, rheolaeth neu farchnata.
Gyda gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant Lletygarwch, TG a Bancio ym Mhrydain a thramor, wrth wynebu colli ei swydd, penderfynodd Ian i ddychwelyd adref i astudio cwrs MBA. Ychydig fisoedd ar ôl cychwyn y cwrs, cafodd ddiagnosis o ganser datblygedig y brostad.
Dywedodd Ian:
"Nid yw cael salwch terfynol yn fy niffinio; rwy'n edrych ymlaen i’r driniaeth ddod i ben er mwyn i mi fynd yn ôl i'r gwaith a gwneud gwahaniaeth. Rwy'n hynod o ddiolchgar am y gefnogaeth yr wyf wedi ei gael gan fy nheulu a ffrindiau, ac rwyf wrthi’n meddwl am beth i'w astudio nesaf. Mae'r MBA ym Mangor wedi fy natblygu i feddwl yn feirniadol a bydd hyn yn rhoi mwy o hygrededd i mi yn y farchnad swyddi. Rwy'n edrych ymlaen at gael defnyddio fy sgiliau newydd i ddatrys problemau yn y byd busnes."
Enillodd Alex Spichale, 47, o Gyffordd Llandudno, Conwy MBA mewn Rheolaeth Amgylcheddol gyda rhagoriaeth o Ysgol Busnes Bangor, ynghyd â Gwobr Magnox, werth £200, am y myfyriwr gorau ar y cwrs trwyddo draw.
Treuliodd Alex fwy na 17 flynedd fel peiriannydd strwythurol, yn gweithio i beiriannydd ymgynghorol ar brojectau megis Parc Eirias ym Mae Colwyn a Pontio, Canolfan Celfyddydau ac Arloesi newydd Prifysgol Bangor. Yn ystod y dirwasgiad diwethaf, roedd rhaid i’r cwmni gau’r swyddfa ranbarthol yn Llandudno, felly, er mwyn cystadlu mewn gweithle sy’n newid yn barhaus, penderfynodd Alex astudio ar gyfer BSc (Anrh) mewn Rheoli Adeiladu ym Mhrifysgol Glyndŵr, Wrecsam, lle cafodd anrhydedd Dosbarth Cyntaf gyda rhagoriaeth.
Ynglŷn â’i benderfyniad i astudio, ac am ei gyfnod ym Mhrifysgol Bangor, dywedodd Alex:
“Mae gan Brifysgol Bangor enw rhagorol, yn enwedig o ran perfformiad academaidd ei hysgolion Amgylchedd a Busnes. Mae’r MBA mewn Rheolaeth Amgylcheddol yn cyfuno nodweddion gorau’r ddwy Ysgol hyn ac yn rhoi profiad dysgu cytbwys sy’n gweddu i’r dim i ddiwydiant modern.
“Ers cwblhau'r MBA, rwyf wedi derbyn cynigion diddorol iawn gan gwmnïau lleol, felly bydd yn rhaid i ni aros i weld ...”
Graddiodd Emma Sarah Hughes, sy’n 22 oed o Fangor ac yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Tryfan, gyda MRes mewn Rheoli a Chyfrifeg yn Ysgol Busnes Bangor.
Dywedodd Emma: "Er fy mod wedi mwynhau cwblhau’r radd ôl-radd, roedd yn heriol iawn, felly mae'n deimlad gwych cael gorffen. Rwyf newydd ddechrau astudio doethuriaeth yn yr Ysgol Busnes, felly bydd hynny'n fy nghadw’n brysur am dair blynedd arall! Ar ôl hynny, rwy’n gobeithio aros yn y byd academaidd a dilyn gyrfa yn ymchwilio a darlithio."
Dyddiad cyhoeddi: 17 Rhagfyr 2015