Seremoni Wobrwyo Gyntaf am Ragoriaeth mewn Caffael Cyhoeddus yng Nghymru
Mae’r cadarnhad diweddar gan y Gweinidog Jane Hutt AC, fod gwerth contractau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru a enillwyd gan fusnesau o Gymru wedi cynyddu ers ychydig flynyddoedd, o 37% i 51%, yn gefndir gwych i’r seremoni wobrwyo gyntaf erioed, sydd i’w chynnal yn Llandudno mis yma, am Gaffael Cyhoeddus yng Nghymru.
Gan gydweithredu â Llywodraeth Cymru, mae’r Sefydliad Astudiaethau Cystadleuaeth a Chaffael (ICPS) o fewn Prifysgol Bangor wedi cael gwahoddiad i gynnal y Seremoni Wobrwyo Gyntaf am Ragoriaeth mewn Caffael Cyhoeddus yng Nghymru, sydd i’w chynnal yng Ngwesty’r Deganwy Quay, Llandudno, ddydd Gwener 22 Mawrth.
Bob blwyddyn, mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn gwario rhyw £4.3 biliwn ar wasanaethu pobl Cymru, a phob blwyddyn, dyfernir miloedd o gontractau i sefydliadau, er mwyn iddynt ddarparu amrywiaeth o wasanaethau a/neu gyflenwi llawer iawn o gynhyrchion, dim ond i sicrhau bod economi Cymru yn tician, heb sôn am dyfu neu ffynnu. Mae Llywodraeth Cymru a Chomisiynwyr Cyhoeddus yn cydnabod bod caffael cyhoeddus â’r gallu i ddod â buddion ehangach o bwys i Gymru ac i gymdeithas yng Nghymru’n gyffredinol. Felly, bwriad y Gwobrau yw cydnabod, gwobrwyo a dathlu rhagoriaeth ym maes caffael trwy nodi polisïau, arferion a/neu ddulliau gweithredu arloesol o fewn y sefydliadau hynny sy’n cyflenwi rhagoriaeth.
Meddai Jane Hutt AC, Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ: “Mae’n bleser gen i gefnogi’r Seremoni Wobrwyo gyntaf mewn Caffael Cyhoeddus yng Nghymru, 2013. Mae’r Gwobrau’n ffordd berffaith o gydnabod a gwobrwyo’r arweinwyr a’r timau hynny sydd fwyaf arloesol, yn ymgyrchu dros gynnydd mewn caffael cyhoeddus, yn dylanwadu ar newid ac yn gweithredu polisi caffael mewn modd sy’n dod â buddion gwirioneddol i Gymru, yn amgylcheddol, yn gymdeithasol ac yn economaidd.”
Parhaodd y Gweinidog, gan ychwanegi, “Mae’r noson wobrwyo hon yn gyfle gwych i dynnu sylw at waith a wneir gan y rheiny sy’n prynu ar gyfer yr sector cyhoeddus yng Nghymru ac yn ei gyflenwi. Bydd yn gyfle inni ddathlu llwyddiannau’r prynwyr a’r cyflenwyr hynny sy’n parhau i gyflawni, ac i symbylu arloesi sy’n gysylltiedig â chaffael cyhoeddus.
Yn yr wythnos a fydd yn arwain at Seremoni Wobrwyo Genedlaethol Cymru am Gaffael, mae’r Sefydliad Astudiaethau Cystadleuaeth a Chaffael (ICPS) ym Mhrifysgol Bangor yn cynnal ei ‘Wythnos Gaffael Flynyddol, 2013’, cynhadledd hyfforddi fawreddog a gyllidir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Cymdeithasol Ewrop (ERDF) trwy Raglen Cymru ac Iwerddon (INTERREG 4A). Mae’r Wythnos Gaffael yn para am wythnos ac yn denu siaradwyr gwadd o bedwar ban byd; eleni, cynrychiolir 16 o wledydd, a threfnwyd y bydd unigolion o Ganada, UDA, Tsieina, Rwsia, Denmarc a Sweden yn bresennol. Eleni, bydd yr Wythnos Gaffael yn edrych ar bum thema, sef Newid Polisi ar Gaffael gyda Gwell Ymchwil, Tendro Ymarferol, Ennill Cyfleoedd am Gontractau Dramor, Arloesi wrth Gaffael, a Chyfraith Caffael Cyhoeddus: Ymarfer Cyfreithiol Newydd a Phatrymau Newidiol. I gloi’r wythnos, bydd y Seremoni Wobrwyo Genedlaethol am Gaffael Cyhoeddus yn ddiweddglo i’r Wythnos Gaffael. Cyflwynir deg gwobr i unigolion, cwmnïau a sefydliadau a fydd yn cadarnhau eu statws fel arweinwyr ac ymarferwyr rhagorol.
Meddai’r Athro Dermot Cahill o Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor a Chadeirydd y Sefydliad Astudiaethau Cystadleuaeth a Chaffael, “Mae’n bleser gennym gynnal y Seremoni Wobrwyo Genedlaethol Gyntaf yng Nghymru am Gaffael Cyhoeddus, ac rydym yn gwneud hynny ar y cyd â Llywodraeth Cymru. Rydym yn credu ei bod yn hollbwysig i’r economi yng Nghymru fod busnesau yn cael cydnabyddiaeth am y gwasanaethau a’r cynhyrchiol gwych a ddarperir gan eu sefydliadau i’r sector cyhoeddus yng Nghymru, a thrwy hynny, i ddinasyddion Cymru. Yn bwysicaf oll, ac yn rhan o’n cenhadaeth dorfol, rydym yn defnyddio’r Seremoni Wobrwyo hon i ddyrchafu’r arweinyddion hynny i statws lle maent i’w gweld y tu allan i Gymru. Rydym yn anelu at hyrwyddo’r enillwyr ar lwyfan ryngwladol a’u helpu i ennill cyfleoedd yn rhyngwladol. Rydym yn gobeithio y caiff enillwyr y Gwobrau, fel modelau rôl, well cydnabyddiaeth fel arloeswyr o ran caffael ac y byddant, trwy hynny, yn gallu dod â mwy o refeniw yn ôl i Gymru, wrth ennill y contractau anodd hynny dramor – hwn yw’r gwir sbardun economaidd ac, yn y Sefydliad Astudiaethau Cystadleuaeth a Chaffael ym Mhrifysgol Bangor, mae’n bleser gennym chwarae ein rhan wrth helpu Cymru i gryfhau ei chyfoeth a’i swyddi.”
Meddai’r arbenigwr mewn caffael a’r Prif Siaradwr yn yr Wythnos Gaffael, John McClelland y mae ei adroddiad diweddar, Maximising the Importance of Welsh Procurement Policy, wedi’i fabwysiadu gan Lywodraeth Cymru: “Mae sefydlu a chynnal Rhaglen Wobrau yn rhoi cyfle i sefydliadau yng Nghymru ddangos eu hymrwymiad eu hunain i arfer da a rhoi arfer da ar waith. Ochr yn ochr â dathlu llwyddiant, mae’r agwedd gystadleuol yn symbylydd ar gyfer wella ymysg y gymuned sy’n ymwneud â chaffael.”
Mae Ian Forrester Mowatt, Cyfarwyddwr dros dro ar Bartneriaeth Caffael Gogledd Cymru, consortiwm o fewn llywodraeth leol, yn cefnogi Rhaglen Ynys Ynni drwy baratoi a chynorthwyo busnesau lleol i fod mor gystadleuol â phosib wrth gynnig am gontractau. Meddai: “Mae’r Wobr yn gydnabyddiaeth o swyddogaeth a chyfraniad caffael gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru yng nghyswllt meysydd allweddol o weithgaredd economaidd. Bydd y Gwobrau yn tynnu sylw at broffesiynoldeb yng Nghymru ym maes caffael ac yn hyrwyddo astudiaeth yn y maes, gan ddarparu llwyfan wych ar gyfer datblygu.
Rhai dyddiadau allweddol ar gyfer eich dyddiadur: cynhelir Wythnos Gaffael 2013 ym Mhrifysgol Bangor rhwng 18 a 23 Mawrth. Cynhelir Seremoni Wobrwyo Genedlaethol Cymru mewn Caffael ar 22 Mawrth am 6.30pm yng Ngwesty’r Deganwy Quay, Llandudno.
Cewch fwy o wybodaeth am y ‘Gwobrau’ ac am ‘Wythnos Gaffael 2013’ ar: www.welshprocurementawards.org.uk neu www.icps.bangor.ac.uk
Cliciwch i weld y datganiad "Cymru – prynu ei ffordd i economi gref".
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mawrth 2013