Seren Opera Rhyngwladol yn derbynanrhydedd gan Brifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor wedi gwobrwyo’r seren opera rhyngwladol, Bryn Terfel CBE, gyda Doethuriaeth er Anrhydedd am ei gyfraniad i gerddoriaeth.
Mae’r cawr cerddorol o Wynedd wedi llwyddo i gymryd saib o’i amserlen brysur i ymweld â Phrifysgol Bangor i dderbyn y wobr anrhydeddus. Mae'ry canwr, sydd wedi ennill gwobrau Grammy, Classical Brit a Gramophone yn ystod ei yrfa hyd yma, wedi mynychu seremoni arbennig yn y Brifysgol heddiw (Dydd Mawrth 28 Chwefror 2012).
Meddai Bryn Terfel, “Mae’n anrhydedd enfawr cael derbyn y Ddoethuriaeth yma mewn Cerddoriaeth gan Brifysgol Bangor. Dwi wedi bod yn ddigon ffodus i fwynhau gyrfa amrywiol yn y byd cerddorol ac mae cael anrhydedd yn brofiad gostyngedig iawn. Wrth edrych ar anrhydeddon diweddaraf Prifysgol Bangor, mae’n fraint cael ymuno â rhestr o unigolion talentog sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i’w meysydd penodol nhw. Dwi mewn cwmni da iawn.”
Ychwanega Dr David Roberts, Ysgrifennydd a Chofrestrydd Prifysgol Bangor, “Heb os, Bryn Terfel yw un o lysgenhadon mwyaf adnabyddus Cymru a’r canwr opera gorau i’r wlad erioed cynhyrchu. Mae’r Brifysgol yn falch iawn o allu gwobrwyo unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i fyd cerddoriaeth – ac wrth wneud hynny yn rhoi Cymru a Gwynedd ar y map.”
Mae gyrfa Bryn Terfel wedi cyrraedd yr uchelfannau yn ystod y blynyddoedd diwethaf wrth iddo serennu mewn cynyrchiadau gan gynnwys Falstaff a Die Meistersinger von Nürnberg a pherfformio mewn rhai o dai opera gorau’r byd. Ond fe ddechreuodd ei yrfa fel plentyn yn cystadlu ar lwyfannau Eisteddfodau’r Urdd a’r Genedlaethol cyn symud ymlaen i astudio yn Ysgol Gerddoriaeth Guildhall yn Llundain.
Dyma’r eildro yn unig i’r Brifysgol gwobrwyo Graddau er Anrhydedd. Cafodd y rhai cyntaf eu cyflwyno i’r Archesgob Desmond Tutu, Sir David Attenborough, Rhodri Morgan a Sir John Meurig Thomas i ddathlu pen-blwydd y Brifysgol yn 125 nôl yn 2009.
Gwyliwch ran o'r Seremni a cyfweliad efo Bryn Terfel yma:-
http://www.bangor.ac.uk/bangortv/bryn_terfel.php.cy
mae lluniau o'r digwyddiad i'w gweld yma.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Chwefror 2012