‘Sesiwn Holi i’r Cyhoedd’ – a’r testun yw Newid Hinsawdd
Bydd ‘Sesiwn Holi i’r Cyhoedd’ yn sôn am newid hinsawdd yn rhoi cyfle i bobl ddysgu ffeithiau, chwalu pob myth, a dysgu’r ffordd orau o weithredu yn ein hinsawdd a’n byd cyfnewidiol. Mae croeso i bawb sydd â diddordeb ddod i Brif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor, 7pm ar 29 Tachwedd – cofiwch ddod â’ch cwestiynau gyda chi. Bydd y drafodaeth yn cael ei darlledu ar raglen ‘Science Café’ BBC Radio Wales ar 6 Rhagfyr 2011, 7pm. Adam Walton, cyflwynydd ‘Science Café’, fydd yn cadeirio’r drafodaeth.
Y drafodaeth hon fydd y digwyddiad olaf mewn cyfres o ddarlithoedd a gynhaliwyd dros y deufis diwethaf, sef Darlithoedd Consortiwm Newid Hinsawdd Cymru ar ‘Newid Hinsawdd: Y Dystiolaeth’ ym Mhrifysgol Bangor. Syr John Houghton FRS, cyn-Bennaeth y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd a Phrif Weithredwr Swyddfa Dywydd y DU, yw un o aelodau’r panel. Mae aelodau eraill y panel yn cynnwys Yr Athro James Scourse, Cyfarwyddwr Consortiwm Newid Hinsawdd Cymru, Dr Lorraine Whitmarsh, Tyndall Caerdydd, Dr Clive Walmsley, Ymgynghorydd Effeithiau Amgylcheddol Cyngor Cefn Gwlad Cymru, a Jane Davidson, Cyfarwyddwraig INSPIRE, Y Drindod Dewi Sant.
Cyn y drafodaeth, bydd Jane Davidson, a arferai fod yn Weinidog yr Amgylchedd yn Llywodraeth Cymru, yn traddodi’r ddarlith olaf ar ‘Rôl Addysg mewn Newid Hinsawdd’.
Drwy gydol Hydref a Thachwedd eleni mae Prifysgol Bangor wedi cynnal cyfres o ddarlithoedd cyhoeddus yn sôn am newid hinsawdd. Bob nos Fawrth am 7pm, mae dwy ddarlith wedi cael eu traddodi gan wyddonwyr blaenllaw yn eu maes o brifysgolion y Consortiwm Newid Hinsawdd – sef Bangor, Aberystwyth, Caerdydd ac Abertawe. Nod y darlithoedd yw mynd trwy’r themâu pwysig sy’n berthnasol i newid hinsawdd gam wrth gam, gan ddechrau gyda’r ffiseg sylfaenol, yr amrywiad naturiol yn yr hinsawdd, y moroedd a’r cryosffer, a chan ganolbwyntio wedyn ar y cyd-destun Cymreig, ymatebion pobl, a’r modd y mae pobl yn dirnad newid hinsawdd. Mae criw da iawn wedi mynychu’r darlithoedd hyd yn hyn, gyda mwy na 100 o bobl ym mhob un, ac mae’r trafodaethau a gafwyd gyda’r gwyddonwyr a’r ymchwilwyr wedi bod yn werth chweil.
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Dr Saskia Pagella (E-bost: s.l.pagella@bangor.ac.uk) (Ffôn: 01248 382600), Canolfan yr Amgylchedd, Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Tachwedd 2011