Sesiynau mentora gyda Ysgol Uwchradd Caergybi
Cafodd disgyblion Ysgol Uwchradd Caergybi brofiad unigryw yn ddiweddar gan i fyfyrwyr Bangor roi blas iddynt o fywyd prifysgol drwy gynnal sesiynau mentora.
Derbyniodd myfyrwyr a disgyblion Blwyddyn 7 dystysgrif mewn seremoni arbennig yn yr ysgol wedi iddynt gwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus.
Yn y gorffennol Ymestyn yn Ehangach sydd wedi bod yn gyfrifol am y cynllun ond cafwyd ei redeg gan y Brifysgol ei hun eleni am y tro cyntaf. Nod y cynllun yw annog disgyblion i ddod i wybod mwy am brifysgolion a'u hystyried fel posibilrwydd i’r dyfodol. Dywedodd Kim Davies, Cydlynydd Ymestyn yn Uwch Ymestyn yn Ehangach y Brifysgol: "Rydym yn darparu grŵp o fyfyrwyr fel mentoriaid i gynnal sesiynau gyda’r disgyblion unwaith yr wythnos am gyfnod o 7-8 wythnos. Pwrpas y sesiynau yma yw cynyddu ymwybyddiaeth o addysg ôl 16 yn gyffredinol a phwysleisio ar Addysg Uwch. Y myfyrwyr sydd yn gyfrifol am greu’r sesiynau ac meant yn cynllunio’r sesiynau i ateb gofynion a diddordebau’r disgyblion. Gall hyn gynnwys gemau, taflenni gwaith hwyl, gwater cyfweliadau a thrafodaethau.”
Penderfynodd Catrin Morris, 21, o Bwllheli, myfyrwraig Newyddiaduriaeth a’r Cyfryngau yn ei hail flwyddyn, ymuno a’r rhaglen am fod ganddi ddiddordeb mewn gyrfa fel athrawes. Dywedodd Catrin, cyn disgybl Ysgol Glan y Môr: “Mae cymryd rhan yn y sesiynau yma yn gyfle gwych ac rwyf yn bendant mai dyma pam rydw i wedi cael fy nerbyn ar gwrs ymarfer dysgu flwyddyn nesaf, roeddent wedi eu plesio yn fawr fy mod wedi cael y fath brofiad. Mi fyswn yn argymell y sesiynau yma i holl fyfyrwyr Bangor, a dweud y gwir rydw i wedi gwneud yn barod! Mae llawer o fy ffrindiau yn genfigennus iawn fy mod wedi cael bod yn rhan ohono.”
Mae Donna Davies, 21, o Lanuwchllyn ger y Bala, yn ei thrydedd flwyddyn ym Mangor yn astudio Cymdeithaseg ac mae’n hapus iawn efo llwyddiant y cynllun, Ychwanegodd Donna, cyn disgybl Ysgol y Berwyn: “Roeddwn eisiau profiad o weithio gyda phobl ifanc gan mai dyma’r fath o waith yr ydw’i i yn gobeithio gwneud yn y dyfodol. Cawsom gyfle i chwarae gemau a chynnal gweithdai gyda’r disgyblion ac esbonio iddynt y maeth o gyfleoedd sydd ar gael iddynt yn y dyfodol. Roeddwn yn siŵr o bwysleisio’r cyswllt rhwng ei diddordebau a sut y gall hyn arwain i yrfa yn y maes hwnnw.”Bydd Prifysgol Bangor yn parhau i weithio’n agos gyda’r disgyblion wrth iddynt weithio eu ffordd drwy’r ysgol gyda phrojectau eraill o fewn Rhaglen Dawn a Chyfle Bangor (TOP).
Dywedodd Nia Wyn Roberts Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Caergybi: "Roedd yn gyfle gwych i Ysgol Uwchradd Caergybi ac mae’r disgyblion wedi manteisio’n fawr o’r sesiynau. Mae'r cynllun yn eu galluogi i ddatblygu sgiliau newydd ac efallai cychwyn ystyried addysg prifysgol. Oherwydd hynny rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth barhaol gan Brifysgol Bangor ac rydym yn dymuno yn dda i’r myfyrwyr yn eu harholiadau eleni."
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mawrth 2013