Shakespeare’s Globe i berfformio yn Pontio ar eu hunig ddyddiadau yng Nghymru’r Gwanwyn hwn
Yn ystod gwanwyn 2018 bydd Shakespeare’s Globe yn mynd ar daith, gan alw yng nghanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio, Bangor 7-9 Mehefin ar gyfer eu hunig berfformiadau yng Nghymru.
Yn nhymor cyntaf eu Cyfarwyddwr Artistig newydd Michelle Terry, bydd y Globe yn torri tir newydd, gydag wyth actor yn mynd ar daith gan gynnig dewis o dair drama i gynulleidfaoedd: The Merchant of Venice, The Taming of the Shrew a Twelfth Night.
Nôl yng nghyfnod Shakespeare, pan fyddai’r theatrau’n cau, byddai cwmni bychan o actorion yn gadael Llundain ac yn mynd ar daith gyda thair neu bedair o ddramâu. Pan fyddent yn cyrraedd cartref o bwys, y penteulu fyddai’n dewis pa ddrama neu adloniant y byddent yn ei pherfformio. Ac felly, i ychwanegu at y cyffro, ac yn ôl traddodiad, bydd y dewis o ddrama yn nwylo’r gynulleidfa, fydd yn pleidleisio ar y noson pa un allan o’r dair yr hoffent ei gweld yn cael ei pherfformio. Wedi i’r gynulleidfa bleidleisio, bydd yr actorion amrydddawn yn dechrau ar y perfformiad yn y fan a’r lle.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Brendan O’Hea: “Mae’r cyfuniad o Shakespeare, y Globe a mynd ar daith yn ticio pob bocs i mi. Mae’r cyfle i rannu’r geiriau godidog ynghyd a fy mhrofiad o chwarae i’r theatr hyfryd honno, gyda chynulleidfaoedd ledled y byd, yn fy nghyffroi yn afwr. Edrychaf ymlaen yn arw i gynhyrchu tair o ddramau mwyaf poblogaidd Shakespeare mewn cyflwyniad unigryw a chyffrous.”
Ddim yn rhai i osgoi her newydd, byddwn yn trawsnewid Theatr Bryn Terfel i gynnig y profiad yna o'r 'Globe', gyda lle i sefyll yn ogystal ag eistedd.
Yn dilyn cyflwyno cynhyrchiad gan yn y Globe nôl yn 2012 (“As You Like It”) yng Nghastell Penrhyn, dywedodd Elen ap Robert, Cyfarwyddwr Artistig Pontio: “Bellach, a’r ganolfan yn ei thrydedd blwyddyn o fod ar agor – da ni’n hynod o falch o ddod â’r Globe yn ôl, y tro hwn i gynhesrwydd Theatr Bryn Terfel, Pontio...ac nid ar gyfer un perfformiad ond pedwar i gyd. Dewch i rannu gwefr y Globe ar daith - yr unig leoliad yng Nghymru – a dewch i ddewis dros eich hunain ar y noson pa un o’r dair drama fydd yn cael ei pherfformio o’ch blaen...ydach chi’n barod am antur Shakespearaidd?”
Bydd sgyrsiau a digwyddiadau arbennig yn cael eu cynnal o amgylch yr ymweliad mewn cydweithrediad â phroject ieuenctid Pontio, BLAS, Prifysgol Bangor ac ysgolion uwchradd lleol. Mwy o wybdoaeth i ddod yn ein rhaglen dymhorol nesaf.
Ni fyddai’r digwyddiad hwn yn bosib heb gyfraniad Cronfa Datblygu Pontio
Swyddfa Docynnau: www.pontio.co.uk
Ffôn: 01248 38 28 28
Tocynnau: £18 - £6.50
Shakespeare’s Globe on Tour
Theatr Bryn Terfel, Pontio, Ffordd Deiniol, Bangor, LL57 2TQ
Nos Iau 7 Mehefin, 7.30pm (gyda sesiwn holi ar ôl y sioe)
Dydd Gwener 8 Mehefin, 1pm (i ysgolion yn bennaf: Twelfth Night)
Nos Wener 8 Mehefin, 7.30pm (gyda sgwrs cyn y sioe 6.15-7pm)
Nos Sadwrn 9 Mehefin, 7.30pm
Ewch i’r wefan am fwy o fanylion
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mawrth 2018