Shakespeare yn Gymraeg yn Theatr y Globe
Ar ddydd Sul 22 Ebrill lansiodd Theatr y Globe yn Llundain yr ŵyl ‘Globe to Globe’ drwy gynnal Sul y Sonedau, pan aed ati am gyfnod marathonaidd o chwe awr i ddatgan y 154 o sonedau a briodolir i Shakespeare mewn oddeutu 25 o ieithoedd gwahanol. Cafodd soned 104 ei haddasu i’r Gymraeg gan yr Athro Peredur Lynch o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor a’i hadrodd gan yr actor Owain Arthur sydd yn ymddangos ar hyn o bryd yn y sioe One Man, Two Guvnors yn y West End. Ymhlith yr ieithoedd eraill a glywyd yr oedd Somalieg, Crïeg, Rwmaneg, Swedeg, Flemeg, Hwngareg, Gaeleg, Ffarsi, Islandeg, Bwlgareg, Arabeg a Latfieg.
Er bod y soned Shakespearaidd yn fesur sydd wedi hen ymsefydlu yn y Gymraeg, roedd addasiad yr Athro Lynch yn seiliedig ar fesur y cywydd, un o ffurfiau traddodiadol y canu caeth ac elfen amlwg iawn mewn barddoniaeth Gymraeg yn ystod oes Shakespeare ei hunan. Yn ôl yr Athro Lynch, “Os bu i Shakespeare erioed glywed barddoniaeth Gymraeg yn cael ei datgan, mae yna bosibilrwydd cryf mai’r cywydd fyddai’r mesur”.
Sonnet 104
To me fair friend you never can be old,
For as you were when first your eye I eyed,
Such seems your beauty still: three winters cold,
Have from the forests shook three summers' pride,
Three beauteous springs to yellow autumn turned,
In process of the seasons have I seen,
Three April perfumes in three hot Junes burned,
Since first I saw you fresh which yet are green.
Ah yet doth beauty like a dial hand,
Steal from his figure, and no pace perceived,
So your sweet hue, which methinks still doth stand
Hath motion, and mine eye may be deceived.
For fear of which, hear this thou age unbred,
Ere you were born was beauty's summer dead.
Professor Lynch’s adaption reads as follows:
Nid wyf yn dy weled di
Un ennyd mewn penwynni.
Yn harddwych, lle y cerddi,
Tu hwnt i henaint wyt ti.
Ond fe ddaeth tro’r tymhorau
Wedi awr ein serch ni’n dau.
Aeth tri haf yn aeaf oer
A’u hwyrnosau’n farn iasoer.
Fe ddaeth tri hydref gan ddwyn
Trwy gynnwrf ein tri gwanwyn,
A Mehefin i grino
Irder iach Ebrill ar dro.
Yn araf, araf, o hyd
Ni welaf – fy anwylyd –
Ddafn rôl dafn, dy harddwch di
Yn dy wên yn dihoeni,
A’n heinioes yn ronynnau
O dywod rhwng dwylo dau
Ai twyll wêl y llygaid hyn?
A dreisiwyd hud y rhosyn?
Chwithau’r rhai sydd yma i ddod,
Ofer, ofer eich dyfod
A bydd cyn eich dod i’r byd
Eich hafau yn llwch hefyd.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2012