Shiromini'n diolch i bawb am eu cefnogaeth
Yn dilyn dychwelyd yn ôl i Fangor, mae Shiromini Satkunarajah wedi diolch i bawb am eu cefnogaeth. Dywedodd: "Hoffwn ddiolch yn arbennig i Hywel Williams AS am bopeth mae wedi ei wneud, ac i Brifysgol Bangor, fy nghyd-fyfyrwyr ac Undeb y Myfyrwyr, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, eglwysi o amgylch y byd, y bargyfreithiwr a’r cyfreithwyr, fy nheulu a'm ffrindiau, y cyhoedd, y cyfryngau, grwpiau pwyso a sefydliadau eraill sydd wedi fy nghefnogi yn ystod y cyfnod anodd hwn.
"Diolch i bawb a lofnododd y ddeiseb a'i rhannu ac i bawb sydd wedi fy helpu ym mha bynnag ffordd roeddent yn gallu. Diolch i bawb oedd yn gysylltiedig â gwneud y penderfyniad i ohirio fy allgludiad.
"Rwy'n falch dros ben fy mod yn ôl ym Mhrifysgol Bangor erbyn hyn ac rwy'n mawr obeithio y byddaf yn gallu cwblhau fy nghwrs. Rwyf eisiau mynd yn ôl i'm darlithoedd a bywyd normal cyn gynted â phosib er mwyn gwella fy siawns o ennill gradd ddosbarth cyntaf mewn peirianneg electronig.
“Roedd cael fy rhoi dan gadwad yn sioc fawr, ac roedd cael fy ngyrru oddi wrth fy ffrindiau a'm teulu i le dieithr yn eithaf trawmatig. Wrth gwrs, mae pethau'n dal i fod yn ansicr, ac mae hyn yn peri pryder i mi a’m teulu, ond ar hyn o bryd rwyf eisiau canolbwyntio ar fy astudiaethau a gwneud yn dda yn fy ngradd. Mae’r gefnogaeth rwyf wedi ei chael gan bawb wedi bod yn rhyfeddol, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y cymorth rwyf wedi ei gael."
Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John G Hughes: "Tra mae dal cryn dipyn o ansicrwydd, rydym yn falch iawn ei bod wedi dychwelyd i Fangor. Hoffem ddiolch yn enwedig i Hywel Williams AS, sydd wedi gweithio'n ddiflino i sicrhau ei rhyddhau yn ogystal â llawer o staff a myfyrwyr yn y Brifysgol ac Undeb Bangor, ac mae llawer o amgylch y byd wedi cefnogi mewn cymaint o ffyrdd gwahanol – yn y cefndir ac yn llygaid y cyhoedd.
"Byddwn yn parhau i gefnogi Shiromini, ac mae pob un ohonom ym Mhrifysgol Bangor yn gobeithio'n fawr y caiff ganiatâd i aros i gwblhau ei gradd."
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mawrth 2017