Shiromini Satkuranajah
Ar ôl dod i wybod am sefyllfa Shiromini ddiwedd yr wythnos ddiwethaf, mae Is-ganghellor Prifysgol Bangor wedi ysgrifennu at y Swyddfa Gartref i ofyn am i Shiromini Satkunarajah gael aros yn y DG er mwyn cwblhau ei hastudiaethau.
Ein barn ni yw y dylai gael parhau â’i hastudiaethau ym Mhrifysgol Bangor, a hynny er lles y fyfyrwraig. Mae’r Brifysgol wedi bod mewn cyswllt â Shiromini i’w sicrhau ein bod yn ei chefnogi a’n bod yn dymuno’n fawr ei gweld yn cwblhau ei chwrs gradd.
Mewn datganiad a ryddhawyd ddydd Gwener diwethaf, meddai Dr Iestyn Pierce, Pennaeth Ysgol Peirianneg Electronig ym Mhrifysgol Bangor: “Mae Shiromini Satkuranajah ymhlith y gorau o fyfyrwyr yr Ysgol Peirianneg Electronig ac wedi llwyddo â marciau uchel iawn yn ei harholiadau ym mis Ionawr. Yn ystod y blynyddoedd ers i mi ei hadnabod, mae wedi dangos yn glir ei bod yn alluog ac yn ddiwyd wrth ei gwaith ac mae wedi cyfrannu’n werthfawr at yr Ysgol a’r Brifysgol, gan gynnwys cadeirio cangen leol yr Institute of Electrical and Electronics Engineers.
“Mae wedi cofrestru ar gwrs pedair blynedd MEng, a bellach ond ag ychydig wythnosau nes cwblhau ei thrydedd blwyddyn a fyddai’n rhoi’r opsiwn iddi raddio yr haf yma â gradd BEng. Does gen i ddim amheuaeth na fyddai – boed ei bod yn graddio â BEng neu MEng – yn sicrhau gradd yn y dosbarth cyntaf.
“Pe byddai’n cael graddio, byddai Shiromini yn sicr o fod yn aelod gwerthfawr o unrhyw weithlu mewn maes sydd â phrinder byd-eang o raddedigion. Heb os, pe byddai’n cael parhau â’i hastudiaethau, gall Shiromini gyfrannu at gymdeithas mewn meysydd megis ynni carbon-isel, cyfathrebu a thechnolegau amgylcheddol.”
Dyddiad cyhoeddi: 27 Chwefror 2017