Sialens y Gymanwlad i Olivia
Mae Olivia Orchart, myfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor, ar hyn o bryd ym Melbourne, Awstralia, yn cynrychioli Tîm Cymru ym Mhencampwriaethau Cleddyfaeth y Gymanwlad (CFC10).
Bydd Olivia’n cystadlu yng nghystadlaethau’r ffoel ac epée ar 30 Medi a 3 Hydref. Mae hi eisoes yn dod i ddygymod â hinsawdd Awstralia.
Meddai Olivia: “Rwy’n gobeithio cael medal yn y CFC10 a chynnal a gwella ar lwyddiant y llynedd yn y Cystadlaethau Agored Prydeinig.
Mae’n teimlo’n wych cael dweud fy mod i’n cynrychioli Cymru yng nghystadlaethau’r Gymanwlad. Wedi pedair blynedd o hyfforddiant a gwaith caled i gyrraedd y fan yma, mae wedi bod yn wefreiddiol.
Hoffwn ddweud pa mor wych mae’r Brifysgol wedi bod efo ariannu a chefnogaeth yn gyffredinol. Dydw i erioed wedi cael dim byd tebyg yn y gorffennol a fyddwn i ddim yma yn Awstralia heb eu cefnogaeth.”
Rhoddodd Prifysgol Bangor fwrsariaeth i Olivia i’w galluogi i fynd i Bencampwriaethau’r Gymanwlad (29.9- 5.10.10). Mae’r bwrsari’n cael ei ariannu gan gyfraniadau gan rhoddwyr elusennol. Yn ogystal, derbyniodd Olivia wobr chwaraeon ucha’r Brifysgol y llynedd, sy’n cael ei dyfarnu i’r chwaraewr neu’r chwaraewraig mwyaf nodedig ymhlith y myfyrwyr. Mae hi ar fin dechrau pedwaredd blwyddyn cwrs gradd Meistr mewn Bioleg Môr.
Breuddwyd Olivia ar hyn o bryd yw ennill medal yn y gystadleuaeth ffoel yn Awstralia ac yna dychwelyd ymhen pedair blynedd i ennill medal mewn epée. Mae’n bwriadu parhau gyda chleddyfaeth gydol ei hoes.
Mae Olivia’n 21 oed ac yn dod o Gas-gwent, De Cymru. Ar hyn o bryd mae yn y pumed safle ar hugain ym Mhrydain ac wedi cynrychioli Cymru bedair gwaith yn 2009: yng Nghwpan Excalibur, Cwpan Winton i gystadleuwyr Hŷn, Pencampwriaethau Iau’r Gymanwlad ym Malaysia a thîm hŷn y 5 Gwlad. Bu’n gapten y tîm Ffoel yn Excalibur, roedd yn rhan o Dîm y Merched yng Nghwpan Winton ac enillodd fedal arian ac efydd ym Mhencampwriaethau Iau’r Gymanwlad. Mae eisoes wedi cynrychioli Cymru yn nhîm y 5 gwlad eleni.
“Mae’n fraint cael cefnogi chwaraewraig mor ymroddedig yn ystod ei chyfnod yn y Brifysgol. Mae nifer o’n rhoddwyr yn dweud eu bod eisio talu rhywbeth yn ôl i’r Brifysgol a cefnogi myfyrwyr sydd yma ar hyn o bryd. Mae Olivia’n gwbl haeddiannol ac rydym yn dymuno pob llwyddiant iddi yn y dyfodol,” meddai Kristen Gallagher, Pennaeth Datblygu a Chysylltiadau Alumni.
Mae Olivia wedi cyfrannu’n fawr at ei chwarae yn y Brifysgol. Enillodd Tîm Cleddyfaeth Prifysgol Bangor bencampwriaethau myfyrwyr Prydain y llynedd. Roedd hi hefyd yn gapten a detholwr ar gyfer tîm myfyrwyr y pum gwlad yn 2009 a 10.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Medi 2010