Siarter Bwyd Lleol i Wynedd a Môn
Mae Prifysgol Bangor yn cydweithredu â dau awdurdod lleol drwy gynnal gweithdy lefel uwch i Fwrdd Rheoli Gwasanaethau Lleol Gwynedd a Môn a chynrychiolwyr y sector bwyd lleol, gan gynnwys busnesau bwyd lleol.
Bydd y gweithdy, a drefnwyd ar y cyd gan Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth Prifysgol Bangor, Fforwm Bwyd Cyngor Gwynedd a Gwynedd Gynaliadwy, yn canolbwyntio ar hybu, darparu a defnyddio bwydydd sydd wedi eu cynhyrchu’n lleol a bwydydd organig yng Ngwynedd a Môn. Cyllidir y cyfarfod ar 6 Mehefin gan Better Organic Business Links, Canolfan Organig Cymru, Llywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Gwahoddir busnesau allweddol, pobol yn y sector cyhoeddus sydd yn bwriadu prynu mwy o fwydydd iachus, a’r sector gwirfoddol sydd yn ymwneud â thlodi bwyd ac ymgyrchoedd iechyd, i ymuno ag ymgyrch Siarter Bwyd Lleol Gwynedd a dod i’r cyfarfod. Nod y Siarter yw annog pobl yng ngogledd Cymru i ystyried dewis a thyfu bwyd yn lleol. Bydd hyn yn dod â buddiannau i’w ganlyn, boed yn rhai uniongyrchol neu anuniongyrchol; er enghraifft, drwy gynnal darpariaeth fwy diogel, hir dymor o fwydydd lleol iach a fforddiadwy. Mae’r Siarter hwn yn un o ddau o’r fath yn unig yng Nghymru, a’r unig siarter gwledig ar raddfa ardal awdurdod lleol.
Cynhelir y cyfarfod am 10.30 ddydd Iau 6 Mehefin yn Adeilad Thoday, Prifysgol Bangor , Ffordd Deiniol, Bangor. Bydd y cyfarfod, a fydd yn parhau tan 1.00, yn agor gyda chyflwyniadau byr ond llawn gwybodaeth gan ymgyrchwyr bwydydd lleol, Ben Gregory o Wynedd a Steve Garret o gymuned Riverside yng Nghaerdydd - cydweithio addysgol gwirioneddol rhwng de a gogledd Cymru.
Dilynir hyn gan weithdy a fydd yn dod â chanlyniadau ymarferol i’r diwydiant bwyd lleol yng nghymunedau ardal y Brifysgol. Gofynnir i'r rhai sydd am ddod i’r digwyddiad gysylltu â’r trefnwyr drwy e-bost m.furlong@bangor.ac.uk cyn gynted ag y bo modd i sicrhau lle a chinio.
Fel hyn yr eglurodd Dr Eifiona Thomas Lane, Cyfarwyddwr graddau Datblygiad Cynaliadwy a darlithydd Daearyddiaeth yn ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth Prifysgol Bangor:
“Bydd cefnogi twf ein heconomi fwyd leol a’n treftadaeth yng Ngwynedd a Môn o fantais fawr i gynaladwyedd lleol, gan gynnwys ansawdd bywyd. Mae sicrhau bod ein cymunedau, yn enwedig yr aelodau hŷn ac iau, yn medru mwynhau bwydydd lleol naturiol, ffres, iachus a fforddiadwy, sydd wedi eu cynhyrchu i’r safon uchaf o ran diogelwch ac ansawdd, yn golygu gwell siopa bwyd yn lleol, gwell profiad o fwyta allan, a chyflenwad o fwyd diogel, iachus y mae gennym ffydd ynddo.”
Meddai Cerys Humphreys, Cydlynydd Fforwm Bwyd Gwynedd: “Drwy hybu gweithgareddau cynhyrchu bwydydd lleol, gallwn wella iechyd a lles pobol ein sir. Gall cynhyrchu a phrynu bwyd sydd yn gynaliadwy, gyfrannu at yr economi gan hybu mentrau newydd a chynyddu nifer y swyddi ym maes bwyd.”
Dyddiad cyhoeddi: 4 Mehefin 2013