Siemens Healthcare Diagnostics yn ymweld â’r Brifysgol ar gyfer hyfforddiant
Yn ystod mis Ebrill 2015 llofnododd Prifysgol Bangor a Siemens Healthcare Diagnostics Memorandwm o Ddealltwriaeth ffurfiol yn ymrwymo’r ddau sefydliad i gydweithio'n agosach yn y blynyddoedd sydd i ddod.
Gan rannu diddordebau'n bennaf yn natblygu arbenigedd a hyfforddiant yn ymwneud â Gwyddorau Biolegol a Bywyd, ond hefyd mewn Peirianneg, Busnes, Rheolaeth a Gwyddorau Cyfrifiannu, mae'r ddau sefydliad yn rhannu gweledigaeth gyffelyb ar gyfer datblygiad economaidd a bywiogrwydd economi Gogledd Cymru drwyddi draw.
Mae'r Memorandwm o Ddealltwriaeth wedi paratoi'r ffordd ar gyfer gweithgareddau fel lleoliadau gwaith a lleoliadau astudio i fyfyrwyr, rhannu arbenigedd i ddarparu Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer staff o'r ddau sefydliad yn ogystal ag ymchwil ar y cyd yn y dyfodol.
Fel rhan o'r berthynas barhaus , mae nifer o staff / wyddonwyr o Siemens yn Llanberis wedi treulio dau ddiwrnod yn ddiweddar yn ymweld ag, ac yn hyfforddi gyda, staff o’r Ysgol Gwyddorau Meddygol Prifysgol Bangor, Sefydliad Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin ac Ysgol Gemeg y Brifysgol.
Cafodd y sesiynau eu cynnal gan Dr David Pryce a Dr Chris Gwenin o’r Brifysgol.
Dywedodd Dr David Pryce am y digwyddiad ;
" Roedd yr ymweliad yn rhan o fenter MoD Prifysgol Bangor - Siemens. Roedd y ffocws, yn benodol, ar berfformio’r ‘immunoassays’ rydym yn defnyddio yn ein gwaith ymchwil meddygol, gan ddefnyddio ein cyfarpar ymchwil o’r radd flaenaf, ac hefyd seminarau yn trafod pwysigrwydd dilysu gwrthgorff mewn ymchwil feddygol .
Yn bersonol, teimlaf fod y digwyddiad yn anferthol o werth chweil ac yn enghraifft dda iawn o union y fath o gyfnewid gwybodaeth a ddyluniwyd yr MoD Bangor - Siemens i annog a hwyluso ".
Dyddiad cyhoeddi: 8 Hydref 2015