Sioe agoriadol Pontio ddim yn cael ei llwyfannu yn y flwyddyn newydd
Yn dilyn y cyhoeddiadau diweddar ynglŷn â'r oedi i agoriad Pontio, mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi na fydd hi'n bosibl llwyfannu cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o Chwalfa yn y flwyddyn newydd fel y gobeithiwyd.
Meddai Is-ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John G. Hughes:
"Yn dilyn trafodaethau manwl gyda'r contractwr a gyda Theatr Genedlaethol Cymru mae wedi dod i'r amlwg ei bod yn annhebygol y bydd yr adeilad wedi ei orffen mewn pryd i ni lwyfannu Chwalfa fis Chwefror fel oeddem wedi gobeithio.
"Rwyf wedi cymryd y penderfyniad anodd a phoenus i ganslo Chwalfa er ein bod yn parhau i weithio gyda Theatr Genedlaethol Cymru i ddod a drama Gymraeg o ansawdd uchel i Pontio yn y dyfodol.
"Rwyf yn sylweddoli fod y newydd yma yn siom enfawr ond oherwydd yr oedi yn y gwaith adeiladu, does gennym ddim dewis arall. Rydym yn ymddiheuro'n daer i'r cast, y criw a'n cynulleidfa, ac rydym yn rhannu'r siom.
"Bydd staff swyddfa docynnau Pontio mewn cysylltiad uniongyrchol a chwsmeriaid er mwyn trefnu ad-daliad.
"Rydym rŵan yn mynd trwy broses o adolygiad manwl gyda'r contractwr, Miller, er mwyn sicrhau amserlen ddiwygiedig ar gyfer agor y ganolfan.
"Ein blaenoriaeth yw gweithio a'r gyflawni'r adeilad a darparu rhaglen artistig agoriadol o safon uchel. Fel y bydd y gwaith adeiladu yn datblygu byddwn yn gwneud cyhoeddiadau pellach."
Meddai Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru:
“Mae’n siom fawr i mi ac i’r cwmni na fydd modd i ni lwyfannu Chwalfa yn y flwyddyn newydd. Daw hyn ar ôl misoedd o waith paratoi, a nifer ohonom - yn artistiaid a gweithwyr theatr proffesiynol yn ogystal â thrigolion yr ardal - wedi gweithio’n ddiwyd ac ymroddedig i greu cynhyrchiad eithriadol. Byddwn ni a Pontio yn archwilio pob cyfle posibl i lwyfannu’r gwaith yn y dyfodol. Yn anffodus, nid oedd modd derbyn sicrwydd y byddai Theatr Bryn Terfel yn barod i ni allu gwneud hynny yn y flwyddyn newydd. Byddwn felly’n parhau â’n trefniadau i lwyfannu cynhyrchiad arall yn y flwyddyn newydd.
“Hoffwn ddiolch i drigolion yr ardal am y croeso a’r gefnogaeth a gawsom. Rydym yn edrych ymlaen at ddychwelyd cyn gynted fyth ag y bydd modd. Rydym hefyd yn dymuno pob llwyddiant i Pontio wrth iddyn nhw baratoi i agor eu drysau, ac edrychwn ymlaen at ymweld â’r ganolfan gyda chynyrchiadau lu yn y dyfodol.”
Dyddiad cyhoeddi: 6 Hydref 2014