Sioned yn ennill Tlws y Cerddor
Llongyfarchiadau mawr i’r cerddor Sioned Eleri Roberts, un o gyn-fyfyrwyr yr Ysgol Cerddoriaeth ar ennill cystadleuaeth Tlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr.
Eleni, cyflwynir y Tlws am waith i ensemble llinynnol (3 ffidil, 3 ail ffidil, 2 fiola, 2 cello ac 1 bas dwbl), mewn un symudiad neu fwy ond heb fod yn hwy na 7 munud o hyd. Cyflwynir y Tlws gan Urdd Cerddoriaeth Cymru ac mae’r enillydd yn derbyn £500, sy’n rhoddedig gan Tydfil Rees Enston, er cof am ei merch, Angela Rees Enston. Bydd Sioned hefyd yn derbyn ysgoloriaeth gwerth £2,000 i hyrwyddo’i gyrfa, gan yr Eisteddfod.
Y beirniaid oedd Lyn Davies ac Euron J Walters, ac wrth draddodi’r feirniadaeth ar yr 8 ymgeisydd yn y gystadleuaeth, dywedodd Lyn Davies, “Yn 'Chwalfa' gan 2.4.7. ceir yr ymgais fwyaf llwyddiannus o dipyn. Mae wedi darganfod ffordd i ddianc o rigol y dull minimal a chyflwyno rhywbeth dramatig a hudol. Mae'r teitl yn gwbl addas. O'r dechrau cawn ffigwr hyfryd cyson yn y rhannau isel, ac o gam i gam caiff ei ddatblygu mewn modd cynil iawn, nes, rhyw hanner ffordd trwy'r darn, mae'n chwalu'n deilchion o dan ymosodiad ysgytwol. Yna ceir cadenza dirdynnol gan y feiolin, cyn ceisio tynnu popeth ynghyd, gydag adlais o'r hyn a fu. Mae'r diweddglo mewn unsain herfeiddiol a chadarnhaol.
“Mae gwaith 2.4.7. wedi apelio fwy-fwy wrth ystyried ymhellach a hynny ar sail y dechneg gadarn, y sicrwydd strwythurol a'r ffresni cynnwys sy'n dal i'r dim deitl y darn, 'Chwalfa'. Felly 2.4.7. biau'r Tlws eleni a phob clod.”
Clarinetydd yw Sioned Eleri Roberts, ac mae hi’n byw yn Mangor. Graddiodd o Brifysgol Cymru Bangor gyda BMus yn 2003, ac yn 2005 cafodd Sioned ysgoloriaeth i astudio cwrs perfformio ôl-radd yng Ngholeg Cerdd y Drindod, Llundain. Yn 2011 derbyniodd ysgoloriaeth KESS i astudio gradd Meistr ym Mhrifysgol Bangor. Yn ystod ei chyfnod astudio derbyniodd hyfforddiant cyfansoddi gan Pwyll ap Sion a Stephen Montague.
Mae Sioned yn berfformwraig, a’i phrif ddidordeb yw gweithiau cyfoes (ac 20G) ar gyfer clarinét unigol. Mae hi wedi perfformio dramor droeon, ac yn 2012 cafodd gyfle i fynd ar daith gyda Dweezil Zappa (mab y cyfansoddwr Frank Zappa) a’i fand Zappa Plays Zappa. Mae Sioned yn gweithio’n aml gydag Ensemble Cymru fel perfformwraig ac fel arweinydd gweithdai (cerdd a chyfansoddi), a phan caiff gyfle mae hi’n yn mwynhau perfformio rhai o’i chyfansoddiadau ei hun ar gyfer clarinét unigol.
Mae Sioned yn diwtor clarinet ym Mhrifysgol Bangor a hefyd i Wasanaeth Cerdd William Mathias.
Mae hi wedi wedi ymddangos ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol o’r blaen yng nghystadleuaeth y Rhuban Glas Offerynnol (2005), ac wedi bod yn llwyddiannus yng nghystadleuaeth yr Unawd Chwythbrennau droeon yn y gorffennol. Dyma’r tro cyntaf iddi ymgeisio mewn cystadleuaeth gyfansoddi yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Dywed Dr Chris Collins, Pennaeth yr Ysgol Cerddoriaeth: “Mae hyn yn glod arbennig i Sioned ac yn gydnabyddiaeth deilwng o’i dawn a’i gallu cynhenid. Fel un sy’n arbenigo ar gerddoriaeth gyfoes, ac fel un o’n tiwtoriaid clarinet yma yn yr Adran, mae’n hyfrydwch i ni gael ei llongyfarch ar ei llwyddiant ysgubol.”
Mi fydd Sioned yn ymuno ag oriel o gerddorion amlwg Prifysgol Bangor sydd eisoes wedi ennill Tlws y Cerddor, gan gynnwys Pwyll ap Sion, Peter Flinn, Guto Puw ac Owain Llwyd.
Am ragor o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.org.uk.
Straeon perthnasol:
Myfyrwraig Prifysgol Bangor i berfformio gyda mab Frank Zappa
Dyddiad cyhoeddi: 7 Awst 2014