Sophie'n cyflwyno mewn cynhadledd
Ddwy flynedd yn ôl, cafodd Dr Sophie Williams, darlithydd mewn cadwraeth ym Mhrifysgol Bangor, ei tharo'n wael gyda Llid yr Ymennydd Japaneaidd tra oedd ar daith ymchwil a dysgu yn Tsieina. Cafodd anaf difrifol i'r ymennydd, bu mewn coma am chwe wythnos ac mae'n dal i ddibynnu ar gadair olwyn ac awyru artiffisial. Ond mae Sophie wedi bod yn benderfynol i ailafael yn ei diddordebau: gwyddoniaeth a chadwraeth planhigion. Yr wythnos hon, mae hi wedi mynd y tu hwnt i bob disgwyl ac wedi dychwelyd i lwyfan cadwraeth ryngwladol a chyflwyno ei hymchwil yn yr "International Congress of Conservation Biology".
Traddodir cyflwyniad Sophie “Would cultivation of a socio-economically important palm take pressure off wild populations” trwy fideo gan fod Sophie dal yn yr ysbyty yn cael triniaeth adsefydlu. Bydd Sophie'n gallu bod yn bresennol yn y digwyddiad gan ei fod yn cael ei ffrydio'n fyw a bydd yn gallu ateb cwestiynau gan y gynulleidfa o wyddonwyr cadwraeth rhyngwladol.
Meddai Sophie "rwy'n mor falch o allu cyflwyno fy ngwaith unwaith eto. Diolch yn fawr iawn i drefnwyr y gynhadledd am wneud hyn yn bosib. Ond bechod na fuaswn yn gallu bod yno go iawn".
Mae Sophie yn ddarlithydd er anrhydedd yn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor. Gweithiodd ei chydweithiwr yr Athro Julia Jones ar y cyflwyniad gyda Sophie. "Pan wahoddwyd Sophie i roi cyflwyniad yn yr ICCB, roedd hi wrth ei bodd ac yn benderfynol o sicrhau ei fod yn digwydd. Diolch o galon i Rondo, cwmni cynhyrchu lleol, am gymryd ein recordiad amhroffesiynol iawn a chynhyrchu'r fideo".
Cynhelir yr International Congress of Conservation Biology pob dwy flynedd. Eleni, fe'i cynhelir yn Cartagena, Colombia rhwng 23 a 27 Gorffennaf. Roedd Sophie i fod i roi cyflwyniad yn y gynhadledd ddiwethaf ym Montpellier, Ffrainc, ond ar y pryd, roedd hi rhwng byw a marw. Yn ystod ei slot ar amserlen y rhaglen, cyfarfu llawer o'i ffrindiau a'i chydweithwyr yng ngardd fotaneg hyfryd Montpellier i rannu straeon am Sophie a dymuno'n dda iddi. Mae ei ffrind a'i chydweithiwr, yr Athro E.J. Milner-Gulland, sy'n rhoi'r prif anerchiad yn y gynhadledd yng Ngholombia yn dweud bod "Sophie wedi bod yn ysbrydoliaeth fawr i bawb sydd wedi ei chyfarfod hi erioed; gan gynnwys ei chyd-fyfyrwyr, ei hathrawon a'i chyd-gadwraethwyr. Mae'n wych ei bod yn gallu cyffwrdd grŵp newydd o bobl trwy'r cyflwyniad hwn, ac ymestyn ei dylanwad cadarnhaol a rhannu ei gwybodaeth unwaith eto ar raddfa fyd-eang."
Yn agoriad y gynhadledd, dyfarnwyd y wobr i gadwraethwr ar ddechrau ei yrfa i Dr Diogo Verissimo. Talodd deyrnged i'r dylanwad mawr mae Sophie wedi ei gael ar ei yrfa.
Mae teulu a ffrindiau Sophie wedi sefydlu ymddiriedolaeth i'w chefnogi. Os hoffech gyfrannu at yr ymddiriedolaeth, anfonwch siec i: The Sophie Williams Trust, d/o Sarah Edgar, Tan y Felin Wen, Rhosbodrual, Caenarfon, Gwynedd, LL55 2BB.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Gorffennaf 2017