Staff a myfyrwyr Dysgu Gydol oes mewn print
Yn 2016 gweler aelod o staff a myfyriwr Dysgu Gydol Oes mewn print. Mae dau lyfr sydd wedi eu cyhoeddi'n ddiweddar yn cynnig mewnwelediad i fywydau merched Cymru dros y deunawfed a'r ugeinfed ganrif.
Awdur 'A Destested Occupation: A History of Domestic Servants in North Wales 1800-1930' yw Annie Williams. Mae Annie yn diwtor Hanes Merched Cymru ac yn gyfrannwr allweddol i'r M.A. Astudiaethau Merched. Llyfr poblogaidd yw hwn ac mae Annie yn brysur yn darparu sgyrsiau ar draws y wlad. Mae gwaith Annie yn allweddol i ddeall bywydau merched yng Nghymru, yn enwedig bywydau merched gogledd Cymru. Mae'r gwaith yma yn fewnwelediad dadlennol a phwysig i'r ffyrdd roedd merched gorfod gweithio a sut oeddant yn cael eu trin pryd hynny. Mae hefyd yn arwain at well ddealltwriaeth o anghyfartaledd cyfredol a'i wreiddiau mewn hanes. (cyhoeddwyd gan: Gwasg Carreg Gwalch 2016)
Eleni hefyd cyhoeddwyd MAMWLAD: Merched Dylanwadol Cymru gan Beryl H Griffiths. Seliwyd y llyfr ar gyfres S4C - MAMWLAD. Yn rhan o'r gyfrol yw pennawd ar Margaret Haig Thomas 1883-1958 ac mae gwaith ymchwil un o'n myfyrwyr M.A. yn cael ei ddyfynnu'n helaeth. Roedd traethawd hir Mair Morris wedi ei seilio ar fywyd Margaret Haig Thomas. Tristwch mawr oedd colli Mair i ganser cyn iddi gwblhau'r gwaith. Yr ydym yn falch iawn o'i hymdrechion ymchwil a bod ei gwaith yn cael ei gydnabod a'i gynnwys mewn cynhyrchiad o bwysigrwydd cenedlaethol (cyhoeddwyd gan: Gwasg Carreg Gwalch 2016).
Dyddiad cyhoeddi: 25 Awst 2016