Staff a Myfyrwyr Hanes yn trafod Cynllun Gweithredu’r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr (NSS)
Ar ddydd Mercher, 9 Hydref cyfarfu staff a myfyrwyr o’r Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg i drafod canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2013 (NSS). Roedd hyn yn rhan o gynhadledd yng Ngholeg y Celfyddydau a’r Dyniaethau i ystyried yr NSS, ac i annog Ysgolion i ddatblygu cynllun gweithredu ar y cyd â myfyrwyr.
Y cynrychiolwyr myfyrwyr o’r Ysgol Hanes oedd Max Zeronian-Dalley (Blwyddyn 2) a Robert Hamlett-Orme (Blwyddyn 3), a buont yn cyfarfod â Dr Peter Shapely, Pennaeth yr Ysgol, ynghyd â Dr Gary Robinson a Dr Mari Elin Wiliam o Bwyllgor Dysgu ac Addysgu’r Ysgol.
Nododd Dr Shapely: “Hoffem ddiolch i Max a Rob am eu mewnbwn gwerthfawr i’r drafodaeth, ac am leisio awgrymiadau a sylwadau myfyrwyr mor effeithiol. Bydd hyn yn ein galluogi nid yn unig i gynhyrchu Cynllun Gweithredu NSS fydd wedi’i sianelu at brofiad myfyrwyr, ond mae hefyd yn ein cynorthwyo i gryfhau’r berthynas gadarn sydd eisoes yn bodoli rhwng staff a myfyrwyr yn yr Ysgol Hanes.
Cafodd yr Ysgol Hanes gyfradd boddhad o 92% yn NSS 2013, oedd yn ein gosod yn 10fed yn y Deyrnas Unedig, a thra ein bod wrth ein boddau gyda hyn, ein ffocws rŵan yw ar wella hyn ymhellach.”
Bydd Cynllun Gweithredu NSS yr Ysgol Hanes wedi’i gwblhau ym mis Tachwedd, a bydd yn cael ei drafod ymhellach gyda chynrychiolwyr myfyrwyr ar hyd y flwyddyn. Yn wir, mae cynlluniau eisoes ar y gweill ar gyfer cael Parti Nadolig staff-myfyrwyr, yn ogystal â sgrîn wybodaeth yn y corridor Hanes, felly cadwch olwg am ddatblygiadau pellach!
Dyddiad cyhoeddi: 17 Hydref 2013